Ymchwil

Llyfr agored ar ddesg wedi'i amgylchynu gan lyfrau eraill, a siffoedd y llyfrgell yn y cefndir

Mae ein hymchwil yn arloesol ac o safon fyd-eang.

Rydym yn arwain ac yn cyfrannu at brosiectau a chyhoeddiadau ymchwil uchel eu bri, a llawer ohonynt yn bellgyrhaeddol y tu hwnt i Brifysgol Aberystwyth a'r cyffuniau - drwy gyfrwng y teledu, radio a thrwy gyhoeddusrwydd gan amgueddfeydd, ymhlith eraill.

Mae pob aelod o'r staff dysgu yn ymchwilwyr gweithgar ar flaen y gad ym maes hanes, gan weithio ar lefel ryngwladol. Mae'r rhain yn bobl sy'n cael dylanwad ac sy'n gwneud gwahaniaeth, wrth siapio syniadau ac agweddau ar amrywiaeth eang o bynciau. Mae ymchwil ein staff yn bwydo i mewn i'r hyn y maent yn ei ddysgu i'r genhedlaeth nesaf o haneswyr.

Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar bedwar cyfnod cronolegol – Oesoedd Canol, Modern Cynnar, Prydain ac Ewrop Fodern a Chymru Fodern – er ein bod yn gwneud ymchwil ar Asia hefyd. Rydym yn gweithio ar draws amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys rhai o'r ffyrdd y mae haneswyr heddiw yn ymchwilio ac yn ysgrifennu am y gorffennol. Ceir cryfderau amlwg, yn ei holl ehangder, ym maes hanes gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd, a chrefyddol.

Mae nifer o themâu yn sefyll allan: sut y mae pobl wedi deall ac ysgrifennu am hanes mewn cymdeithasau yn y gorffennol; hanes meddyginiaeth, gwyddoniaeth a thechnoleg; a hanes y cyfryngau.

Mae ein hymchwil yn arloesol ac o safon fyd-eang. Mae esiamplau'n cynnwys ein hymchwil ar seliau'r Oesoedd Canol, natur ysgrifennu hanesyddol dros amser, sut mae gwyddoniaeth fodern wedi datblygu, a sut mae profiadau hanesyddol argyfyngau megis newyn wedi newid.

Cewch ganfod mwy am ddiddordebau ymchwil a chyhoeddiadau ein staff ar dudalen Porth Ymchwil Aberystwyth

Cliciwch ar y tabiau i ganfod mwy am ein prosiectau a seminarau ymchwil.

Prosiectau ymchwil diweddar

Disability and Industrial Society: A Comparative Cultural History of British Coalfields, 1780-1948’ (Welcome Trust)

George Whitefield (1714-70) and Transatlantic Protestantism (Leverhume Trust)

Political Culture in Three Spheres: Byzantium, Islam and the West, c. 700 – c. 1450 (2004-20)

Unity Diversity and the Past, Europe, c. 1100-1300 (Leverhume Trust)

Imprint: a forensic and historical investigation of fingerprints on medieval seals (AHRC)

Identity, Interaction and Exchange in Medieval England (Leverhume Trust)

Aberystwyth at War: Experience, Impact, Legacy, 1914-1919 (Lottery Heritage Fund)
Bu'r prosiect hwn yn rhedeg rhwng mis Mai 2018 a mis Tachwedd 2019. Roedd yn ymchwilio effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobl a chymdeithasau Aberystwyth drwy waith ar y cyd gan gynnwys gwirfoddolwyr, archifau lleol, y brifysgol, cymdeithasau hanes lleol, ysgolion, a grwpiau perfformio a chelfyddydol. Edrychodd y grwpiau hyn ar gofnodion o adeg y rhyfel, llythyrau, papurau newydd, ffotograffau, cerddoriaeth, cofebion rhyfel a hanesion personol a gedwir yn ein sefydliadau partner, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau Ceredigion, ac Amgueddfa Ceredigion, yn ogystal â Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth a mannau cyhoeddus yn yr ardal. Bu dros 70 o fyfyrwyr a gwirfoddolwyr o'r ardal leol yn archwilio ac yn dehongli hanes y cymunedau hyn ar ffurf gweithgareddau, arddangosfeydd, perfformiadau ac adnoddau ar-lein hygyrch.

People's Voices in a People's War: Aberystwyth 1939-45 (Lottery Heritage Fund)

A Social and Cultural History of the British Press in World War Two (Leverhume Trust)
Mae'r prosiect hwn yn fenter cydweithredol ac amlddisgybledig ar y cyd â'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, gyda'r bwriad o greu'r astudiaeth feirniadol lawn gyntaf o rôl y cyfryngau Prydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan gyfuno hanes cyfryngau adeg y rhyfel â chyd-destun ehangach Prydain yn ystod y rhyfel, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol, gan archwilio rôl y cyfryngau o fewn y meysydd hynny.

Seminarau Ymchwil

Rydym yn cynnal seminarau wythnosol ar amrywiaeth eang o themâu ymchwil drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain yn agored i unrhyw un yn y Brifysgol, myfyrwyr a staff, yn ogystal â phobl yn y gymuned ehangach. Mae ein seminarau'n denu llawer o sylw ac yn annog trafodaeth a rhannu syniadau.