Canolfannau Ymchwil yr Adran

Yn ogystal â dilyn eu diddordebau ymchwil personol, mae aelodau’r adran yn cyfuno eu harbenigedd – a’r hyn sydd ar gael yn adrannau eraill y Brifysgol – i weithio mewn canolfannau ymchwil arbenigol. Mewn sawl achos, bydd y Canolfannau’n defnyddio’r adnoddau sydd ar gael mewn casgliadau archifyddol arbenigol lleol, megis yr adnoddau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, er mwyn ychwanegu at eu rhaglenni ymchwil. Nod y Canolfannau yw hwyluso’r gwaith drwy drefnu digwyddiadau megis seminarau a chynadleddau, drwy ddrafftio prosiectau ymchwil ar y cyd, a thrwy chwilio am gymorth ariannol i’r rhain gan gyrff cyllido priodol.