Gweithgareddau'r Ganolfan Hanes a'r Cyfryngau

Mae’r Ganolfan Hanes a’r Cyfryngau yn fforwm allweddol ar gyfer hybu a chyflwyno ymchwil cyfredol ym maes hanes a’r cyfryngau. Byddwn yn gwahodd yn gyson haneswyr y cyfryngau o’r DU a thu hwnt i gyflwyno eu gwaith ymchwil cyfredol yng nghyfres Seminarau Ymchwil yr Adran Hanes a Hanes Cymru ac yng nghyfres seminarau’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.                     

Siaradwyr Diweddar yn y Seminarau:

  • Marianne Hicks (Prifysgol Monash), 'Making news: The 'community' of foreign correspondents in Berlin, 1930-39,’ Iau 17 Ionawr 2008
  • Chandrika Kaul (St Andrews), ‘At the stroke of the midnight hour": Lord Mountbatten and the British media at Indian independence August 1947’, Mercher 9 Ebrill 2008
  • Michael Bailey (Leeds Met), ‘”This is public service broadcasting, is it not?” Richard Hoggart and the idea of democratic broadcasting’,Gwener 4 Rhagfyr 2009.

Byddwn hefyd yn cynnal cynhadledd bob dwy flynedd ar Hanes a’r Cyfryngau a Hanes yn y Cyfryngau yng Ngregynog, Canolfan Astudio Prifysgol Cymru yn Y Drenewydd, Powys. Gweler Cynadleddau am fanylion pellach. Rydym wrthi’n cynllunio cyfres o symposia ar agweddau ar hanes a’r cyfryngau ar hyn o bryd, a gynhelir yn 2010 a 2011. Cysylltwch â’r Ganolfan am fwy o wybodaeth.