Prosiectau Ymchwil yr Adran

Diwylliant Gwleidyddol mewn Tri Byd: Bysantiwm, Islam a’r Gorllewin, c. 700 – c. 1450

Mae’r prosiect hwn, sy’n cael ei gydlynu gan Catherine Holmes a Jonathan Shepard yn Rhydychen, Jo van Steenbergen yn Ghent, a Björn Weiler yn Aberystwyth, yn tynnu ynghyd arbenigwyr ar hanes Bysantiwm, Islam a’r Gorllewin yn yr Oesoedd Canol er mwyn archwilio’r hyn sy’n gyffredin a’r hyn sy’n wahanol yn strwythurau a chredoau gweithredu gwleidyddol ymhlith cymdeithasau Môr y Canoldir yn yr Oesoedd Canol. Y cwestiynau allweddol a ystyrir yw i ba raddau y gallai gwahanol amgylchiadau diwylliannol, a hefyd amgylchiadau cymdeithasol, economaidd, a daearyddol fod wedi rhoi ystyron gwahanol i gysyniadau cyffredin (awdurdod, duwioldeb, cymodi, ac ati); i ba raddau yr oedd gweithredu ac arferion a ddefnyddir fel categorïau deongliadol gan haneswyr modern (defodau, ideoleg ac ati) yn golygu gwahanol bethau ym mhob un o’r tri byd; ond hefyd, i ba raddau yr arweiniodd etifeddiaeth gyffredin (Ymerodraeth Rufeinig y Cynfyd Diweddar) a thraddodiad hir o gysylltu a chyfnewid rhwng y naill a’r llall at un diwylliant yn benthyca, yn mabwysiadu, ond hefyd yn gwrthod arferion a ganfyddid mewn diwylliant arall.

Ers 2005, mae’r prosiect wedi trefnu sesiynau thematig yn y Gyngres Ganoloesol Ryngwladol yn Leeds (Rheolwyr dan oed [2005], Cyfarwyddyd a Chyngor [2006], Trefi [2007], Crefydd ac Uniongrededd [2009], Teithio ac Anturio [2010], Dimensiwn materol grym [2011]), yn ogystal â chyfres o weithdai mwy arbenigol (Aberystwyth 2008, Rhydychen 2009, Caerefrog 2010). Bydd y rhain yn arwain at ddwy gyfrol, sy’n cael eu paratoi ar hyn o bryd, y naill ar fframwaith gwleidyddiaeth (arferion, safonau a chyd-destun gweithredu’n wleidyddol, ond hefyd ffynonellau a hanesyddiaeth diwylliant gwleidyddol yn hanes canoloesol y byd Islamaidd, Bysantaidd a Gorllewinol), a’r llall ar fframwaith cyfnewid (amgyffrediad a defnydd, dulliau, mecanweithiau, a fframwaith cyfnewid diwylliannol a gwleidyddol).

Crëwyd y prosiect hwn fel modd i hwyluso cyfnewid, fel seinfwrdd ar gyfer syniadau. Mae rhai o’r gweithdai felly wedi arwain at ddigwyddiadau pellach (colociwm ar ideoleg yng Nghaer-grawnt yn 2010, a chynhadledd ar ddefodau a seremonïau ym Mhrifysgol Cyprus yn 2011, gyda’r trafodion i’w cyhoeddi yn 2012). Mae cynlluniau ar gyfer gwaith ymchwil pellach, mwy arbenigol o fewn i’r fframwaith cymharol eang hwn ar y gweill, a chyhoeddir y manylion ar y dudalen we hon yn y man.