Seliau yng Nghymru'r Oesoedd Canol 1200-1550

Y Prosiect

Mae’r prosiect Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn rhedeg am dair blynedd o 1 Medi 2009. Lleolir y prosiect yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (Aberystwyth - Bangor). Aelodau tîm y prosiect yw’r Prif Ymchwilydd, Yr Athro Phillipp Schofield (Prifysgol Aberystwyth), y Cyd-ymchwilydd, Dr Sue Johns (Prifysgol Bangor), a’r ymchwilwyr Dr Elizabeth New a Dr John McEwan.


Defnyddiwyd seliau ar gyfer dilysu mewn gwahanol ddiwylliannau ac ar gyfer dilysu dogfennau ledled Ewrop a’r byd ehangach am ganrifoedd lawer. Mae seliau’r Oesoedd Canol yn cynnig golwg arbennig ar faterion sefydliadol a phersonol ac yn cefnogi diddordebau rhyngddisgyblaethol ar gyfer ymchwilwyr heddiw ar bob lefel. Mae seliau hefyd yn rhoi gwedd unigryw ar y bobl a’u defnyddiai a’r cyd-destun y’u defnyddid ynddo. Ond er eu bod yn adnodd mor allweddol, maent yn parhau yn ffynhonnell o ddelweddau a geiriau o’r gorffennol nas defnyddir ddigon.


Mae Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol yn archwilio seliau o Gymru gyfan a’r Gororau er mwyn archwilio agweddau ar gymdeithas ac economi’r Oesoedd Canol, gwleidyddiaeth, crefydd a mynegiant o hunaniaeth mewn ffyrdd newydd. Er bod y prosiect yn canolbwyntio ar Gymru a’r Gororau, bydd maint y prosiect yn golygu y gellir ysbrydoli astudiaethau ar y defnydd o seliau yn y DU a thu hwnt yn y dyfodol o ran methodoleg a chynnwys deongliadol y cynnyrch.

Cynhadledd

Seliau a’u Cyd-destun yn yr Oesoedd Canol

27 - 29 Ebrill 2012, Prifysgol Aberystwyth

Amcan y gynhadledd hon yw ystyried swyddogaethau seliau ym Mhrydain a Gorllewin Ewrop yr Oesoedd Canol yn y cyd-destun ehangaf posibl. Bydd y themau yn cynnwys defnyddio seliau mewn cyfraith a gweinyddiaeth, y weithred o selio a chofnodi’r weithred hon yn ogystal â chwestiynau yn ymdrin â pham, sut a gan bwy y defnyddiwyd y seliau. Thema bwysig arall bydd y ffordd mae seliau yn ymwneud â tharddiadau eraill: gweledol, materol a dogfennol. Yn bennaf oll bydd y gynhadledd yn annog trafod ymhlith ysgolheigion sy’n gweithio mewn gwahanol draddodiadau academaidd.

Bydd siaradwyr yn cynnwys Adrian Ailes, Brigitte Bedos-Rezak, Paul Brand, John Cherry Paul Harvey, Brian Kemp, Daniel Power, Markus Späth a Nicholas Vincent.

Bydd rhaglen y gynhadledd a manylion cofrestru ar gael yma yn gynnar yn hydref 2011.