Dr Rhun Emlyn
Cymrawd Dysgu
Cyswllt
Ebost: rre@aber.ac.uk
Rhif Ffon: 2666
Proffil
Mae Rhun Emlyn BA, MA (Cymru) yn gymrawd dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr adran. Mae yn hanesydd yr Oesodd Canol, gyda diddordebau ymchwil arbennig mewn hanes eglwysig a gwleidyddol, yn ogystal â hanes Cymru. Canolbwyntia ei waith ar hyn o bryd ar fyfyrwyr canoloesol Cymreig, eu gyrfaoedd a’u dylanwad ar gymdeithas Ewrop a Chymru, ac mae wrthi’n cwblhau doethuriaeth ar y testun.
Dysgu
Dysg Rhun Emlyn fodiwlau ar hanes Cymru a hanes yr Oesoedd Canol, gan gynnwys ‘Argyfwng, Gwrthryfel a Ffydd’ sy’n gyflwyniad i hanes Ewrop rhwng 1100 a 1540. Mae hefyd yn dysgu ar fodiwlau cyflwyniadol blwyddyn gyntaf, a modiwlau craidd ail a thrydedd flwyddyn gan gynnwys goruchwylio traethodau hir.
Ymchwil
Mae gan Rhun Emlyn ddiddordebau ymchwil mewn agweddau o hanes Cymru a hanes ehangach Ewrop yn yr Oesoedd Canol, yn arbennig hanes eglwysig a gwleidyddol. Mae’r rhain yn cynnwys astudio’r ymdeimlad o hunaniaeth yng Nghymru, y cyfleoedd gyrfa oedd ar gael a’r cysylltiadau a fodolai ar draws Ewrop trwy’r eglwys. Diddordeb arbennig sydd ganddo yw perthynas yr eglwys a gwleidyddiaeth a sut effeithiai hyn ar sefyllfa Cymru erbyn yr Oesoedd Canol diweddar. Derbyniodd Rhun Emlyn ysgoloriaeth dysgu cyfrwng Cymraeg er mwyn gwneud ymchwil uwchraddedig i’r meysydd hyn, ac mae’n cwblhau doethuriaeth yn yr adran ar hyn o bryd. Pwrpas y doethuriaeth yw astudio myfyrwyr canoloesol Cymreig gyda’r pwyslais ar ddarganfod y myfyrwyr hyn ym mhrifysgolion Lloegr a chyfandir Ewrop a gweld y gyrfaoedd a ddilynwyd ganddynt yn dilyn eu cyfnod mewn addysg; arwain hyn at ystyried nifer o feysydd megis addysg, bywyd eglwysig a gwleidyddiaeth. Bwriad yr ymchwil yw arwain at ddealltwriaeth pellach o berthynas Cymru gyda’r prifysgolion, pwysigrwydd y prifysgolion i’r gymdeithas Gymreig a chyfraniad y myfyrwyr hyn at fywyd y cyfnod.
Papurau a Draddodwyd
2009
- 'Murderers, Lawyers and Priests: Medieval Welsh Students at Oxford' yng nghyfres seminarau ymchwil uwchraddedig yr Adran Hanes a Hanes Cymru, Mai 2009
2010
- 'Cymru, Paris a Thu Hwnt: Cyfraniad Myfyrwyr Cymreig Paris at Fywyd Eglwysig yr Oesoedd Canol' yng Ngholociwm Uwchraddedig Aberystwyth, Ionawr 2010
- 'In Pursuit of Learning: Medieval Welsh Students Abroad' yng nghyfres seminarau ymchwil uwchraddedig yr Adran Hanes a Hanes Cymru, Chwefror 2010
- 'Esgobion, Gwleidyddion a Chyfreithwyr: Myfyrwyr Cymreig Canoloesol a'u Gyrfaoedd' yn y Gynhadledd Cyfrwng Cymraeg, Gregynog, Mai 2010
- 'Serving Church and State: the Careers of Medieval Welsh Students' yng Nghynhadledd y Bymthegfed Ganrif, Southampton, Medi 2010
- 'Cymry a'r Curia: Myfyrwyr Cymreig yng Ngwasanaeth y Pab' ym Mhumed Colociwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol, Hydref 2010
Papurau i Ddod
- 'Scholar-Monks in the Western Church: Monastic Wales and the Universities' – Cyngres Ganoloesol Ryngwladol Leeds, 11-14 Gorffennaf 2011
- 'In Pursuit of Learning: Welsh Students in England’ – Cynhadledd ar Loegr y Drydedd Ganrif ar Ddeg, Aberystwyth 5-8 Medi 2011