Profilliau Myfyrwyr

Ceri Phillips

Des i yma ar ddiwrnod agored a syrthiais mewn cariad â’r lle a’i awyrgylch, felly penderfynais ddod yma i astudio. Cefais ysgoloriaeth i ddod yma, a oedd hefyd yn help mawr.
Roedd yn hawdd i mi setlo i mewn yma. Gan ei bod hi’n dre mor fach mae popeth yn agos at ei gilydd ac mae’n llawn myfyrwyr. Mae yma awyrgylch cartrefol, a dyw hi ddim yn cymryd llawer o amser i chi wneud ffrindiau.
Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn wych. Mae’n hawdd cyfathrebu â staff yr adran ac maent wastad yna i chi os oes gennych unrhyw broblemau.
Gan fy mod yn astudio Hanes Cymru mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddefnyddiol iawn - mae pob un llyfr ar gael gan ei bod yn llyfrgell hawlfraint.
Dwi’n aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Mae yna ddigon o gymdeithasau yma, mae’n wych. Wrth fod yn aelod o’r cymdeithasau rydych yn cymysgu â myfyrwyr eraill.
Yr hyn dwi’n ei hoffi fwyaf am Aber ydy’r bywyd cymdeithasol, awyrgylch cynnes y dre, a’r ffaith fod popeth yn agos at ei gilydd. Yr unig beth dwi ddim yn ei hoffi yw’r allt!
Byddwn yn sicr yn argymell i eraill astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma’r profiad gorau gewch chi!

Heledd Eleri Evans

Roeddwn yn hapus iawn i dderbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae pob ceiniog o gymorth i mi wrth i mi ddechrau ar fy nghradd yn Aberystwyth. Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac wedi dilyn fy holl bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol, dewis naturiol oedd gwneud hynny hefyd yn y brifysgol. Enw da’r Adran Hanes a Hanes Cymru a’r gymdeithas Gymraeg yma yn Aberystwyth wnaeth fy nenu yma