Diwrnod Blasu
Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn eich gwahodd i’r Diwrnod Blasu a gynhelir ganddynt Ddydd Llun 9fed Gorffennaf.
Yn ystod y diwrnod, bydd modd i chi ddarganfod mwy am astudio Hanes yn gyffredinol, ac am astudio Hanes gyda ni. Mae’r diwrnod yn cynnwys:
- Cymryd rhan mewn gweithdy sylfaenol sy'n seiliedig ar pwnc.
- Cael blas ar sut yr ydym yn astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Cyfle i sgwrsio â myfyrwyr cyfredol a gweld y dref
- Profiad o fywyd Prifysgol.
- Cyfle i wella eich CV.
Camau nesaf:
- Darllenwch y manylion a’r cwestiynau pellach isod
- Cofrestrwch ar gyfer y Diwrnod Agored ar y 10 Gorffennaf
- Cofrestrwch am y diwrnod blasu ar y 9 Gorffennaf
Manylion pellach
- Bydd y Diwrnod Blasu yn dechrau am 12.45. Wedi cyflwyniad byr, bydd cinio ysgafn wedi ei ddarparu.
- Yn ystod y Diwrnod Blasu, byddwn yn ymweld â lleoliadau o gwmpas Aberystwyth, ac yn cael blas ar brosiectau rhai o’r staff a gweithgareddau’r myfyrwyr. Gobeithio y bydd y cyfan yn rhoi gwell syniad i chi o’r hyn yw astudio Hanes yn y Brifysgol.
- Bydd ein darlithwyr yn eich arwain yn ôl i Gampws Penglais erbyn 18.00 mewn digon o bryd ar gyfer y bwffe gyda’r nos, sy’n cael ei ddarparu gan yr Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg.
Bydd rhan helaeth o’r prynhawn yn cael ei dreulio yn yr awyr agored. Er y dylai’r tywydd ym Mehefin fod yn ddigon braf a sych, rhaid i ni gyfaddef nad yw hi felly bob amser ..... Felly dyma syniad o’r math o bethau y dylech ddod gyda chi i Aberystwyth:
Eitemau hanfodol:
- Esgidiau cadarn a chyfforddus.
- Côt law ysgafn.
- Rhywbeth i’ch gwarchod rhag yr haul (het, sbectol haul, eli haul).
- Digon o ddiod a snaciau am y prynhawn.
- Camera.
- Pad ysgrifennu bychan a phensil.
Er y bydd popeth yn cael ei ddarparu ar eich cyfer, dylech ystyried dod â rhywfaint o arian poced rhag ofn y byddwch yn awyddus i flasu hufen iâ Aberystwyth!