Derbyn Israddedigion

Derbyn

Os byddech chi’n mwynhau bywyd mewn cymdeithas glòs o fyfyrwyr, os hoffech chi’r cyfle i astudio gydag arbenigwyr yn eu maes sy’n rhoi’r pwyslais ar ddysgu mewn grwpiau bychain, os byddech chi’n cael eu denu gan gampws mewn lleoliad anhygoel lle mae’r mynyddoedd yn cwrdd â’r môr, yna mae’n bosibl mai Hanes yn Aberystwyth yw’r dewis iawn i chi. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cynnig ystod eang o gyrsiau gradd sy’n cynnwys cynlluniau Anrhydedd Sengl mewn Hanes, Hanes Modern a Gwleidyddiaeth, Hanes a Hanes Cymru, Hanes a’r Cyfryngau a Hanes a Hanes Economaidd a Chymdeithasol, yn ogystal â chynlluniau Anrhydedd Cyfun yn cynnwys Hanes, Hanes Cymru a Hanes Economaidd a Chymdeithasol. Dr Owen Roberts yw Tiwtor Derbyn yr Adran.

Gofynion Mynediad

Mae tua 300 pwynt yn gynnig nodweddiadol i ymgeiswyr Safon Uwch. Mae’n bosibl y bydd Safon Uwch Astudiaethau Cyffredinol, Bagloriaeth Cymru a lefelau UG yn cael eu cynnwys. Byddai’n well pe bai gennych gymhwyster mewn Hanes, ond nid yw’n hanfodol, ac rydym hefyd yn derbyn ymgeiswyr â graddau uwch mewn pynciau eraill ac ymrwymiad cryf i astudio hanes yn y brifysgol. Nid yw cynigion yn amodol ar gyfweliadau, ond caiff ymgeiswyr sy’n derbyn cynnig eu hannog yn gryf i ddod i un o’r Dyddiau Ymweld a gynhelir yn ystod y gwanwyn, lle bydd cyfle i gwrdd ag aelodau o’r staff a chael eich tywys o amgylch y campws yng nghwmni myfyrwyr. Mae’n bosibl y bydd gofynion mynediad yn gostwng yn dilyn perfformiad cryf gan ymgeisydd yn yr arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad.


Mae gofynion mynediad cyfatebol yn cynnwys 29 pwynt ym Magloriaeth Cymru.

         
Mae’r Adran hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr heb gymwysterau Safon Uwch confensiynol, gan gynnwys myfyrwyr hŷn a’r rheiny sy’n dilyn cyrsiau Access neu BTEC neu’r hyn sy’n cyfateb iddyn nhw.

Clirio 

Ambell flwyddyn, mae’n bosibl y bydd nifer bychan o lefydd ar gael ym mis Awst drwy’r system Glirio. Cysylltwch â’r Adran am fwy o fanylion.