Aber Card

Mae’r Cerdyn Aber yn eich galluogi i gael gostyngiad yn holl leoedd bwyd y gwasanaethau Croeso.

Bydd pob aelod o staff a myfyriwr yn cael gostyngiad o 5% wrth ddangos eu Cerdyn Aber wrth dalu.

Bydd myfyrwyr sy’n talu trwy ddefnyddio eu Cerdyn Aber yn cael gostyngiad o 10% ar bopeth yn holl leoedd bwyd y gwasanaethau Croeso.

Bydd Cerdyn Aber pob myfyriwr yn cael ei osod yn awtomatig â’r gwasanaethau Croeso, ac i’r rhai mewn llety arlwyo, bydd eich lwfans yn cael ei lwytho ar y cerdyn hwn.

Gallwch ychwanegu credyd i’ch cerdyn yn unrhyw un o leoedd bwyd y gwasanaethau Croeso neu trwy lenwi ac anfon y ffurflen ychwanegu credyd i’n swyddfa gyllid.

Gellir defnyddio’r Cerdyn Aber yn y Ganolfan Chwaraeon, y Llyfrgell, i lungopïo, ac i gael mynediad i’r Canolfannau Dysgu.

Os nad oes gennych gerdyn, gall Staff a Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wneud cais am un yn y Llyfrgell.

Felly cofiwch

  • Dangoswch eich cerdyn bob tro i gael eich Gostyngiad
  • Os ydych yn Fyfyriwr, talwch gyda’ch Cerdyn Aber i gael eich gostyngiad o 10%
  • Gellir defnyddio’r cerdyn yn holl Gaffis a Bwytai’r Brifysgol
  • Mae’n hawdd ychwanegu credyd yn unrhyw un o’n lleoedd bwyd
  • Nid oes raid talu i ymuno
  • Gall unrhyw un ychwanegu credyd at eich cerdyn ar eich rhan

Pam ymuno?

Mae’n Haws: gallwch drefnu eich arian yn well, nid oes angen mynd i nôl arian parod cyn bwyta ac mae’n gynt wrth y til.

Mae’n fwy Diogel: ni fydd angen i chi gario cymaint o arian parod, ac os byddwch yn colli eich cerdyn, neu fod rhywun yn ei ddwyn, gallwch gael un newydd yn Llyfrgell Hugh Owen. Gallwn hefyd osod eich cerdyn Llyfrgell fel Cerdyn Aber yn rhad ac am ddim. We can also set up your Library card as your Loyalty Card at no cost.

Felly peidiwch â cholli allan! Byddwch yn ddoeth Defnyddiwch eich Cerdyn

Ac mae’n hyblyg:

  • Gallwch roi arian ar eich cerdyn wrth unrhyw dil - ag arian parod, siec, cerdyn debyd neu gerdyn credyd; ym Bwyty Tamed Da neu dros y ffôn
  • Dewis o leoedd i fwyta, o 8:00yb - 10:00yp
  • Rhad ac am ddim i ymuno/ymaelodi.