Prynu Credyd
O Ddydd Llun, Medi 19eg 2011, bydd codiad blynyddol mewn prisiau yn cael ei gyflwyno ym mhob un o'r Lleoliadau Croeso. Gwneir hyn oherwydd chwyddiant bwyd o 8.2% a'r cynnydd TAW o Ionawr 2011. Er mwyn inni fedru cynnig y pris gorau posibl i fyfyrwyr a staff, cytunwyd i ddiwygio'r strwythur prisio. Ceir un pris pennawd gan roi gostyngiad o 5% i holl staff PA sy'n dangos Cerdyn Adnabod dilys, e.e. Cerdyn Llyfrgell, a bydd POB myfyriwr yn derbyn gostyngiad o 10% wrth ddefnyddio Cerdyn Aber. Bydd myfyrwyr nad ydynt yn dymuno talu trwy ddefnyddio Cerdyn Aber yn derbyn gostyngiad o 5%. Nodwch y bydd HOLL gerdiau Aber myfyrwyr yn cael eu sefydlu cyn Penwythnos y Glas.
Gall staff a myfyrwyr sy'n berchen ar Gerdyn Croeso barhau i'w ddefnyddio ar gyfer talu, ond ni roddir gostyngiad oni bai bod cwsmeriaid yn dangos cerdyn Aber. Os bydd gennych gwestiynau pellach ynghylch yr uchod, cysylltwch â'r Swyddfa Croeso ar 621961.
Rhoi Rhagor o Arian Arni
Gellir ychwanegu credyd at y Cerdyn Teyrngarwch, â cherdyn credyd neu gerdyn debyd, drwy ddod i Dderbynfa Penbryn yn ystod yr wythnos gwaith rhwng 9.00yb a 5.30yp neu yn bwyty TaMed Da.
Gellir hefyd wneud hyn dros y ffôn trwy ddefnyddio cerdyn debit / credyd – ffoniwch (01970) 62 1942 neu (01970) 62 2778.
Gallwch ail-lenwi hefyd yn unrhyw un o'r lleoedd bwyta wrth talu gyda arian parod neu siec.
Neu, gallwch lawrlwytho, llenwi a dychwelyd y ffurflen gais i wneud taliadau ychwanegol. Trwy ychwanegu isafswm taliad o £10 yn unig gallwch ychwanegu at eich credyd yn ôl y gofyn!