Aber Card

Sut i Ymuno a'r Cynllun

Llwythwch y ffurflen i lawr a llenwi'r ffurflen gais briodol ac amgáu siec yn daladwy i Prifysgol Aberystwyth, neu fel arall, nodwch fanylion eich cerdyn credyd ar y ffurflen am o leiaf yr isafswm credyd cychwynnol o £10. Dychwelwch y ffurflen i Swyddfa Gyllid y Gwasanaethau Croeso sydd yn Nerbynfa Penbryn.

Cyfeiriad: Y Swyddfa Gyllid Gwasanaethau Croeso, Gwasanaethau Croeso, Penbryn, Penglais, Aberystwyth, SY23 3BY neu ffôn: 01970 62 1942 / 62 2778 neu hospitalityfinance@aber.ac.uk

Casglu eich Cerdyn

Bydd myfyrwyr sy'n byw yn ein neuaddau preswyl lle paratoir bwyd yn derbyn eu cerdyn teyrngarwch yn awtomatig wrth nôl allweddi eu hystafelloedd, felly hefyd y myfyrwyr mewn llety hunan-arlwyo a archebodd eu cerdyn ymlaen llaw. Caiff pawb arall gyfle i gasglu neu brynu cerdyn teyrngarwch o'n man ymholiadau am y Cerdyn Teyrngarwch yn Nerbynfa Penbryn ar ddechrau'r tymor.

Ffurfflen Gais

  Ffurfflen Gais Cerdyn Aber(155kb)

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn a defnyddio’r cardiau teyrngarwch hyn, cysylltwch â ni.