Termau ac Amodau
Cyflwyniad
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu cynllun cerdyn debyd talu-ymlaen-llaw ("y Cynllun") sy'n defnyddio cerdyn debyd plastig personol ("y Cerdyn") yn gyfnewid am wasanaethau arlwyo a geir mewn mannau gwerthu arbennig o dan berchnogaeth, neu reolaeth, Gwasanaethau Croeso Prifysgol Aberystwyth. Y mae'r telerau ar gyfer gweithredu cynllun y 'cerdyn teyrngarwch' fel â ganlyn:
Pwy sy'n gallu gwneud cais
- Y mae'r Cerdyn ar gael i holl staff a myfyrwyr cofrestredig Prifysgol Aberystwyth ac unigolion cysylltiedig fel y'u henwebir gan Prifysgol Aberystwyth o bryd i'w gilydd. Y mae myfyrwyr mewn preswylfeydd arlwyo yn cael eu derbyn yn awtomatig i'r Cynllun hwn fel rhan o gytundeb eu trwydded llety, ac maent wedi'u rhwymo i delerau ac amodau'r cytundeb hwnnw.
- Gosodir lwfans arlwyo myfyrwyr, ac eithrio israddedigion yn eu blwyddyn gyntaf, ar eu cardiau llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw sicrhau bod manylion cywir eu cardiau llyfrgell yn cael eu hanfon at adran y Gwasanaethau Croeso mewn da bryd, fel bod modd credydu'r garden cyn dechrau'r semester.
Sut y mae'r Cerdyn Teyrngarwch yn cael ei gredydu.
- Caiff y Cerdyn ei roi allan unwaith bydd y cais i ymuno â'r Cynllun wedi ei dderbyn.
- Rhaid rhoi gwerth o leiaf £10 o gredyd ar y Cerdyn i'w roi ar waith
- Gellir ychwanegu credyd at y Cerdyn wrth y tiliau ym Mhantycelyn, Tamed Da a Blas Gogerddan, gydag arian parod, siec neu gerdyn credyd/ debyd. Neu gellir gwneud taliadau gyda chardiau Credyd neu Ddebyd dros y ffôn - 01970 621942/622778
- Ni chodir llog naill ai ar yr arian a gredydir i'r Cerdyn, nac ychwaith ar unrhyw weddill sy'n cronni.
Lle gellir defnyddio'r Cerdyn
- Gellir defnyddio'r Cerdyn Teyrngarwch ym mhob man masnachu ar Gampws Penglais a Gogerddan sydd o dan berchnogaeth neu reolaeth Gwasanaethau Croeso Prifysgol Aberystwyth. I osgoi unrhyw amheuaeth, y llefydd hyn yw Tamed Da, Tamed Bach, The Underground, Cegin Pantycelyn a Blas Gogerddan.
- Ceidw Prifysgol Aberystwyth yr hawl i newid manylion y mannau lle gellir defnyddio'r Cerdyn, ac eithrio unrhyw neuaddau preswyl arlwyedig.
- Y mae pethau a brynir o fasnachfreintiau a mannau arlwyo eraill unrhyw un o gampysau Prifysgol Aberystwyth yn cael eu hepgor o'r cynllun.
-
Pa fwydydd y gellir eu cyfnewid yn rhan o'r Cynllun Cerdyn Teyrngarwch
- Gellir defnyddio'r Cerdyn yn gyfnewid am fwyd neu ddiod yn y mannau dynodedig yn unig. Ni ellir defnyddio'r Cerdyn i brynu diodydd alcoholaidd.
Sut y defnyddir y Cerdyn
- Mae'n rhaid dangos y Cerdyn wrth brynu bwyd neu ddiod. Bydd gwerth y pryniant yn cael ei dynnu o'r Cerdyn. Cewch dderbynneb sy'n dangos cofnod o'r eitemau a brynwyd a'r swm sy'n weddill ar y Cerdyn.
- Ni ellir defnyddio'r Cerdyn fel rhan o daliad. Caiff y Cerdyn ei dderbyn yn unig mewn achosion lle mae digon o gredyd ar gyfer y pryniant.
Amrywiol delerau ac amodau
- Y mae'r Cerdyn yn ddilys cyhyd â'i fod mewn credyd ac nad oes chwe mis wedi mynd heibio ers ei ddefnyddio ddiwethaf. Os nad yw'r Cerdyn wedi cael ei ddefnyddio ar ôl i chwe mis fynd heibio, fe'i diddymir yn awtomatig fel na ellir ei ddefnyddio eto, a fforffedir unrhyw gredyd sydd heb ei ddefnyddio. Yr unig eithriadau i hyn yw cardiau myfyrwyr y neuaddau preswyl arlwyedig, sy'n gaeth i delerau cytundeb y drwydded llety.
- Bydd myfyrwyr sy'n gadael Aberystwyth fel rhan o gynllun astudio cymeradwy yn gallu defnyddio'u Cerdyn, ac unrhyw weddill sydd arno, unwaith eto ar ôl iddynt ddychwelyd.
- Codir tâl gweinyddol o £5.00 am unrhyw ad-daliadau, ac eithrio ad-daliadau a delir i fyfyrwyr y Preswylfeydd Arlwyo.
- Ystyrir mai eiddo Prifysgol Aberystwyth yw'r Cerdyn, ac ni ellir ei drosglwyddo oddi wrth y sawl a'i derbyniodd. Ceidw Prifysgol Aberystwyth yr hawl i ofyn i ddeiliad y Cerdyn i'w ddychwelyd. Mewn achosion o'r fath bydd y Brifysgol yn ad-dalu unrhyw weddill a oedd ar y Cerdyn ar ôl iddo ddod i law.
- Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am Gardiau a gollir neu a niweidir. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw hysbysu adran Gwasanaethau Croeso Prifysgol Aberystwyth am unrhyw Gardiau a gollir neu sy'n cael eu dwyn.
- Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddefnydd twyllodrus o Gardiau a gollwyd neu a ddygwyd, a byddai gweddill a gredydir i Gerdyn newydd yn gyfwerth â'r gweddill a oedd ar yr hen Gerdyn pan yr adroddwyd ynghylch ei ddiflaniad wrth y Gwasanaethau Croeso.
- Codir ffi weinyddol o £5.00 am ddarparu Cerdyn newydd, oni bai bod y myfyriwr yn dymuno gosod y cyfrif ar eu cerdyn Llyfrgell yn rhad ac am ddim.
- Ceidw Prifysgol Aberystwyth yr hawl i addasu telerau ac amodau'r Cerdyn heb roi unrhyw rybudd ymlaen llaw i ddeiliad y Cerdyn, ac eithrio fel yr amlinellir yn y Cytundeb Trwydded Llety.