Amdanom Ni
Mae'r Gwasanaethau Croeso yn rhan o Wasanaethau Preswyl a Chroeso y Brifysgol.
Credwn fod gan y gwasanaeth croeso gyfraniad pwysig iawn i'w wneud i fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth. Mae deiet a maeth yn sylfaenol i les myfyrwyr, ac mae'r gwasanaeth croeso yn ymwybodol o'r angen i ddarparu bwyd iach, maethlon, uchel ei safon yn gyson.
Beth sydd i'w gael i fwyta ac yfed ar y campws?
Mae gennym fwydydd Prydeinig traddodiadol wrth gwrs, ond gallwch chi hefyd fwynhau prydau Cyfandirol a Dwyreiniol megis pitsas, pasta, bwydydd wedi’u tro-ffrio a chyrris.
Mae gan ein dau brif fwyty adran sy’n gwerthu prydau ffres, adran Bwydydd i’w Bachu ar gyfer brechdanau, saladau ayyb, yn ogystal â diodydd deiet, dŵr potel, suddion ffrwythau a diodydd poeth.
Gwobrau
- Mae cig oen o ffermydd y brifysgol wedi ennill medal aur Gwir Flas Cymru 2009.
- Mae’r Brifysgol wedi ennill medal aur Gwir Flas Cymru am Gynaliadwyedd, medal arian am gig oen o ffermydd y brifysgol a medal arian am y modd y mae’n defnyddio cynnyrch / cynhyrchwyr lleol.


