Pecynnau Bwyd a Diod

Ni ellir ychwanegu pecynnau arlwylo ar-lein ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni os hoffech ychwanegu pecyn arlwylo.

Cynnig Cynllun Prydau: - gallwch nawr fanteisio ar ein cynnig prydau hyblyg arbennig 'Bwytewch gyda ni, siopwch gyda ni' - hyd yn oed os ydych yn byw mewn llety hunanarlwyo neu dai preifat yn y dref! Gallwch fwyta yr hyn yr ydych ei eisiau, pryd fyddwch eisiau, ble fyddwch eisiau, o ginio poeth i baned o Starbucks neu hyd yn oed prynu rhai cynhwysion i goginio eich hun.

Pan fyddwch yn cyrraedd Aberystwyth, byddwch yn derbyn eich ‘cerdyn Aber’ a fydd yn cael ei gredydu yn awtomatig gyda digon o arian ar gyfer o leiaf un prif bryd y dydd pan fyddwch yn dewis pecyn pryd. Mae’r cerdyn hefyd yn golygu eich bod yn gymwys i gael gostyngiad o 10% i ffwrdd o brisiau til yn holl gaffis a bwytai y brifysgol, yn ogystal â chynigion diodydd poeth! Ar ben hynny, byddwch yn derbyn credyd ychwanegol gwerth £100 os byddwch yn dewis pecyn blwyddyn.

  • O leiaf un prif bryd y dydd
  • Gostyngiad o 10% ar brisiau til
  • Gwerth £100 o gredyd ychwanegol os byddwch yn prynu pecyn blwyddyn
  • Prynwch 9 diod poeth a chael eich 10fed am ddim