Newyddion a Digwyddiadau
Gwobr “Good Egg” Compassion in World Farming
Mae’n dda gennym gyhoeddi bod y Gwasanaethau Croeso wedi cael gwobr “Good Egg” fel rhan o’n hymrwymiad i dosturi mewn ffermio byd-eang. Dyfernir y wobr hon i Arlwywyr sy’n defnyddio wyau a chynnyrch wyau sy’n dod o adar nad ydynt yn cael eu cadw mewn cewyll. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaol i ddatblygu ymhellach ein dulliau prynu a’n harferion amgylcheddol a chynaliadwy.
Ceir gwybodaeth bellach am y wobr yn: http://www.compassioninfoodbusiness.com/
Dydd Mercher 18 Ionawr 2012
Noson ar thema Fecsicanaidd yn Tamed Da o 4.30-7.00yp ac ym Mhantycelyn rhwng 5.00-6.30yp
Dydd Llun 23 Ionawr 2012
Dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn Tamed Da o 4.30-7.00yp ac ym Mhantycelyn rhwng 5.00-6.30yp
Dydd Llun 6 i ddydd Gwener 10 Chwefror 2012
Wythnos Bwyta’n Iach – Cadwch lygad barcud am ddewisiadau bwyta’n iach a chynigion arbennig ym mhob un o’n bwytai a chaffis ar y Campws.
Dydd Mawrth 14 Chwefror 2012
Noson Sant Folant – rhannwch bryd i ddau o’r theatr goginio yn Tamed Da rhwng 4.30-7.00yp
Dydd Llun 27 i ddydd Gwener 2 Mawrth 2012
Wythnos Gymreig- cynhelir dathliad o fwyd a diod o Gymru ym mwytai a chaffis ledled y Campws, gydag wythnos o gynigion arbennig a bwydlen ar thema arbennig yn Tamed Da a Phantycelyn i nodi Dydd Gŵyl Dewi ddydd Iau.
Dydd Llun 27 Chwefror i ddydd Sul 11 Mawrth 2012
PYTHEFNOS MASNACH DEG
Dyfarnwyd Prifysgol Aberystwyth yn sefydliad Masnach Deg yn 2009, felly byddwch yn siŵr o ddod o hyd i lawer o gynnyrch Masnach Deg yn ein holl leoliadau bwyd ar y Campws. Camwch ymlaen yn 2012
Dydd Mercher 21 Mawrth 2012
Noson ar thema Indiaidd yn Tamed Da rhwng 4.30-7.00yp ac ym Mhantycelyn rhwng 5.00-6.30yp