Pwyntiau Cyfrannu a Chynyddrannau Cyflymedig
Dyfernir pwyntiau cyfrannu a chynyddrannau cyflymedig mewn cysylltiad â’r broses datblygu staff ac adolygu perfformiad blynyddol, ac yn ôl tystiolaeth y broses honno.
- Bydd pwyntiau cyfrannu’n gymwys i’r staff hynny sydd ar frig eu graddfa gyflog.
- Bydd cynyddrannau cyflymedig yn gymwys i staff nad ydynt eto wedi cyrraedd brig eu graddfa gyflog.
- Ceir manylion am lwfansau Dirprwyo dros dro a Chyfrifoldeb mewn gweithdrefnau ar wahân.
- Bydd ceisiadau am bwyntiau cyfrannu neu gynyddrannau cyflymedig yn dilyn y broses a’r amserlenni a amlinellir isod.
- Bydd y penderfyniad am ddyfarnu pwyntiau cyfrannu neu gynyddrannau cyflymedig yn seiliedig ar y meini prawf isod ac ni fyddant yn ddarostyngedig i ystyriaethau ariannol.
Y Broses
Bydd y broses ar gyfer dyfarnu un neu ragor o bwyntiau cyfrannu neu gynyddran gyflymedig i gyflogai fel a ganlyn:
- Yn dilyn y cyfarfod datblygu staff ac adolygu perfformiad blynyddol, caiff y cyflogai neu’r rheolwr llinell wneud cais am ddyfarnu un neu ragor o bwyntiau cyfrannu neu gynyddran gyflymedig i’r cyflogai am gyfnod o un flwyddyn ar y sail bod y cyflogai yn cwrdd â’r meini prawf isod.
- Caiff y cais ei gyfeirio at y Pennaeth Adran a fydd yn darparu datganiad a fydd wedyn yn cael ei roi i’r unigolyn i wneud sylwadau arno. Yna caiff y cais, ynghyd â datganiad y Pennaeth Adran, ac os yw’n berthnasol, gwrth-ddatganiad yr unigolyn, eu cyflwyno i’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.
- Caiff ceisiadau eu cyflwyno i’w hystyried gan y panel Dyfarnu.
- Mewn blynyddoedd dilynol, gall y cyflogai neu’r Pennaeth Adran gyflwyno ceisiadau pellach naill ai er mwyn cynnal y pwynt cyfrannu am flwyddyn ychwanegol neu er mwyn dyfarnu rhagor o bwyntiau cyfrannu neu gynyddrannau cyflymedig.
Amserlen
| 1 Medi 2012 | Agor ceisiadau i staff/ rheolwr llinell |
| 10 Hydref 2012 | Dyddiad cau ceisiadau |
| Tachwedd 2012 | Y Panel yn cyfarfod |
| Rhagfyr 2012* | Talu’r pwynt cyfrannu neu’r gynyddran gyflymedig |
Y Panel Dyfarnu
Bydd y panel yn cwrdd yn flynyddol a chaiff ei gadeirio gan y Dirprwy Is-Ganghellor - Myfyrwyr a Staff. Bydd y panel yn cynnwys tua 10 aelod, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r undebau llafur.
Bydd y panel hefyd yn gyfrifol am fonitro nifer y cgeisiadau gan unigolion/rheolwyr llinell ym mhob adran. Mae’n bosibl y bydd angen i’r panel weld cofnodion neu ffurflenni Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad ar gyfer yr holl staff cysylltiedig mewn rhai achosion.
Bydd y panel yn rhoi adborth manwl ac ysgrifenedig ar bob cais.
Nodyn: Mae'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth yn gyfrifol am oruchwylio y broses hon mewn perthynas â staff uwch
Talu’r Dyfarniad
Dyfernir pwyntiau cyfrannu mewn un cyfandaliad.
Noder: caiff cyfrifiad y cyfandaliad sydd i’w ddyfarnu ei seilio ar y gwahaniaeth rhwng pwynt yr unigolyn ar y golofn gyflog ar 1 Rhagfyr a’r pwynt nesaf ar y golofn (neu’r nesaf ond un os dyfernir dau bwynt cyfrannu)
Meini prawf
Caiff ceisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf a nodir isod.
| Mae’r cyflogai wedi gwneud cyfraniad cyson rhagorol ac wedi gwneud yn well na’r holl brif ofynion sy’n gysylltiedig â’r swydd yn barhaus. Mae ansawdd a maint y gwaith yn amlwg yn rhagorol ac mae’r perfformiad ar ben uchaf yr hyn a ddisgwylir yn y swydd. Mae’r holl amcanion, fel y’u nodwyd yn adolygiad datblygu a pherfformiad staff blynyddol y cyflogai, wedi’u cyflenwi i safon uchel neu eithriadol ac mae o leiaf 2 o’r amcanion wedi’u pasio yn nhermau cyflenwi disgwyliedig ac amserlen. Mae’r unigolyn yn rhagweithiol yn y modd y mae’n cynyddu ei sgiliau/gwybodaeth drwy gyfleoedd dysgu priodol; ac yn cymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau newydd hyn yn ei rôl ac yn eu rhannu â chymheiriaid. Cydnabyddir yr unigolyn yn berfformiwr eithriadol ac yn batrwm rôl gan reolwyr a chydweithwyr. Rhaid i’r cyflogai allu dangos bod y perfformiad eithriadol hwn wedi gwneud cyfraniad sylweddol at nodau allweddol cyfredol y sefydliad, fel y’i nodir yng Nghynllun Strategol y Brifysgol. |
Ceir cyfarfod yn dilyn pob dyfarniad, rhwng y pennaeth adran a’r cyflogai, i drafod yr anghenion datblygu proffesiynol mewn perthynas â’r maes gwaith eithriadol.
* neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny os nad yw’n bosibl cwrdd â therfyn amser taliadau cyflog mis Rhagfyr.
