Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Cyflwyniad
Rhan Un – Natur y swydd
Rhan Dau – Diffinio cyswllt

Cyflwyniad

O 1 Tachwedd 2022, mae Prifysgol Aberystwyth wedi trefnu gyda Chyngor Powys y bydd gwiriadau DBS yn cael eu cynnal ar-lein ar gyfer unrhyw un a allai fod angen gwiriad yn rhan o ofynion eu swydd.

Bydd y rheiny sydd angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) nawr yn gallu gwneud eu cais trwy ddefnyddio system ar-lein. Bydd yr ymgeisydd/gweithiwr sydd angen gwiriad nawr yn gallu mynd i borth ar-lein sydd â chefnogaeth 24 awr i lenwi’r ffurflen angenrheidiol. Yna bydd yn rhaid iddynt gyflwyno eu dogfennau ategol gofynnol i Adnoddau Dynol.

Os oes angen DBS, bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn sicrhau bod yr hysbyseb yn nodi bod y swydd hon yn amodol ar wiriad DBS. Unwaith y bydd y cynnig wedi’i wneud yn amodol ar wiriad DBS boddhaol, bydd Adnoddau Dynol yn dechrau ar y broses ddilysu. Pan welwch swydd sydd angen DBS, gwnewch yn siŵr eich bod yn ticio “A oes angen DBS ar gyfer y swydd hon” ar y ffurflen ‘Cais i lenwi Swydd Wag’.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â DBS, cysylltwch ag ad@aber.ac.uk.

Rhan Un – Natur y swydd

Dirprwy Is-ganghellor y Gyfadran / Pennaeth yr Adran Gwasanaeth ddylai ofyn i wiriad DBS gael ei gynnal, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Dilysu Dynodedig (DVO) priodol, sef Cyfarwyddwr AD. Bydd angen gwiriad DBS os yw un o’r meini prawf canlynol yn berthnasol:

  • bod prif ddyletswyddau’r swydd neu’r cwrs astudio (israddedig neu uwchraddedig), neu ran sylweddol ohonynt, yn gofyn am gyswllt uniongyrchol gyda phlant neu oedolion agored i niwed unwaith y mis neu’n amlach, tri achlysur neu fwy dros gyfnod o 30 diwrnod neu dros nos. h.y. rhwng 2 a 6 y bore.
  • bod prif ddyletswyddau’r swydd, neu ran sylweddol ohonynt, yn cynnwys trefnu a gweinyddu rhaglenni neu weithgareddau gyda phlant neu oedolion agored i niwed, hyd yn oed os na fydd deiliad y swydd fel arfer yn dod i gysylltiad uniongyrchol â phlant neu oedolion bregus.

Wrth baratoi hysbyseb am swydd wag bydd angen i chi ystyried a oes angen gwiriad DBS ai peidio trwy ddarllen y diffiniad isod o blentyn neu oedolyn agored i niwed. Dylid adolygu swyddi newydd wrth baratoi’r disgrifiad swydd.

Rhan Dau – Diffinio cyswllt

Diffiniadau o oedolyn agored i niwed a phlentyn.

  • Diffinnir ‘plentyn’ fel unrhyw un sydd o dan 18 oed. At ddiben y polisi hwn mae gan y term ‘person ifanc’ yr un ystyr.
  • Diffinnir oedolyn agored i niwed fel person sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd:
    • yn byw mewn llety preswyl, fel cartref gofal neu ysgol arbennig breswyl;
    • yn byw mewn tai gwarchod;
    • yn derbyn gofal cartref yn ei gartref ei hun;
    • yn derbyn unrhyw fath o ofal iechyd;
    • yn cael ei gadw yn gyfreithlon yn y ddalfa (mewn carchar, canolfan remánd, sefydliad troseddwyr ifanc, canolfan hyfforddi ddiogel, neu ganolfan ymbresenoli, neu o dan bwerau Deddf Lloches a Mewnfudo 1999);
    • o dan oruchwyliaeth y gwasanaethau prawf;
    • yn derbyn gwasanaeth lles penodol, sef cael cefnogaeth, cymorth neu gyngor gan unrhyw berson, a’i ddiben yw datblygu gallu’r unigolyn i fyw’n annibynnol mewn llety neu gefnogi ei allu i wneud hynny;
    • yn derbyn gwasanaeth neu’n cymryd rhan mewn gweithgaredd ar gyfer pobl sydd ag anghenion penodol oherwydd eu hoedran neu sydd ag anabledd o unrhyw fath;
    • yn feichiog neu’n fam sy’n bwydo baban ac yn byw mewn gofal preswyl;
    • yn cael taliadau uniongyrchol oddi wrth awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn hytrach na gwasanaethau gofal cymdeithasol;

neu

    • angen cymorth i drefnu eu pethau a’u bywyd eu hunain.

Yn sgil y gwelliant hwn yn y broses, rydym yn disgwyl y bydd holl wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael eu cwblhau o fewn 14 diwrnod fan bellaf ar ôl gwneud cais. Bydd Cydymffurfiaeth AD yn gallu cefnogi eich timau trwy’r broses ar y dechrau. Unwaith y byddwn wedi derbyn gwiriad boddhaol, bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn hysbysu Dirprwy Is-ganghellor y Gyfadran / Pennaeth yr Adran Gwasanaeth er mwyn cytuno ar ddyddiad dechrau i’r gweithiwr newydd.

Am fwy o wybodaeth: Find out which DBS check is right for your employee - GOV.UK (www.gov.uk)