Rhaglen Cymorth i Staff
| Cliciwch yma am mewngofnodi i'r Rhaglen Cymorth i Staff (RCS) |
|---|
'Dim ots pryd yr ydych chi ein hangen ni, rydym ni yma i’ch cynorthwyo'
Fel gwasanaeth cyfrinachol am ddim wedi ei ddarparu gan eich cyflogwr, rydym yncynnig cyngor arbenigol, gwybodaeth werthfawr, a chefnogaeth. Bydd hyn yn eichcynorthwyo i baratoi yn well ac i ymdopi gyda digwyddiadau bywyd - yn cynnwys ypethau a all achosi pryder a straen.
Mae cefnogaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ceisiwn ateb eichcwestiynau yn syth, neu eich cyfeirio at y cynghorydd, cwnselydd, neu’r ffynhonnellwybodaeth fwyaf priodol.
Cyfrinachedd
Mae’r gwasanaeth yn wasanaeth cyfrinachol; ni chaiff unrhyw wybodaeth, a allaiarwain at ddatgelu pwy ydych chi, ei hanfon at unrhyw barti allanol yn cynnwyseich cyflogwr, os nad ydych chi’n rhoi eich caniatâd penodol.Yr eithriadau i hyn yw lle mae bywyd neu ddiogelwch eich hunain neu eraill danfygythiad.
Gwasanaethau sydd ar gael
Mae eich cyflogwr yn talu am y gwasanaethau canlynol, a chynigir hwy i chi felgwasanaeth di-dâl.
- PPC ar-lein
- Gwybodaeth Arbenigol
- Gwybodaeth am ddyledion
- Cwnsela
Gwybodaeth Arbenigol
Mae Gwybodaeth Arbenigol yn wasanaeth sy’n darparu atebion a canllawiau ar:hawliau a chyfrifioldebau; gweithdrefnau statudol; a chefnogaeth sydd ar gael idrafod rhwystrau o ddydd i ddydd.
Gwybodaeth am ddyledion
Mae gwybodaeth am ddyledion dros y ffôn yn cael ei gyflwyno gan gynghorwyrarbenigol sydd yn edrych ar ymrwymiadau ariannol a phatrymau gwario. Wedynblaenoriaethir dyledion a rhoddir cyngor ar yr opsiynau sydd ar gael i gynorthwyo’rgwaith o reoli’r ddyled. Mewn achosion llai difrifol, rhoddir gwybodaeth arailstrwythuro cyllid i wella’r sefyllfa ariannol.
Cyngor Dros y Ffôn ac wyneb yn wyneb
Mae PPC yn darparu cwnsela dros y ffôn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Bydd ein cwnselwyr yn eich cynorthwyo i egluro’r pryder, edrych ar opsiynau adarparu cefnogaeth. Mae gwasanaeth cynghori PPC yn darparu cyngor diduedd acannibynnol ac yn ffordd ymarferol a chadarnhaol o gynorthwyo i ddatrys pryderona gwella effeithiolrwydd.
