Polisi Gweithio Hyblyg

  1. Egwyddorion y Polisi

    1. Mae’r Polisi Gweithio Hyblyg hwn yn berthnasol i bawb sy’n cael eu cyflogi gan Brifysgol Aberystwyth. Mae’r polisi yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol (Deddf Cyflogaeth 2002) ac mae’n brawf o’n hymroddiad i ddenu a chadw staff o ansawdd da, i arddel yr ymarfer gorau o ran adnoddau dynol, i ymateb i anghenion y cyflogwr a’r gweithwyr wrth iddynt newid ac i reoli’r amser gweithio yn effeithiol ac effeithlon.
    2. Bydd PA yn ymateb yn adeiladol a sensitif i bob cais am drefniadau gweithio hyblyg. Serch hynny, er bod gan weithwyr cyflogedig cymwys yr hawl i ofyn am drefniadau gweithio hyblyg, rhaid nodi nad yw’r gyfraith yn darparu hawl awtomatig i drefniadau gweithio o’r fath os na ellir addasu trefniadau gweithio er mwyn i’r gais gael ei ganiatáu. Bydd gallu PA gymeradwyo ceisiadau o'r fath yn amrywio yn ôl natur swyddogaethau a dyletswyddau'r swydd dan sylw; yn ôl anghenion academaidd, gweithredol a gwasanaethol yr adran y maent yn gweithio ynddi; ac yn ôl trefniadaeth a natur yr adran honno.
    3. Bydd ceisiadau am drefniadau gweithio hyblyg yn cael eu hystyried yng nghyd-destun y materion busnes isod:
      • a ellir ad-drefnu’r gwaith ymhlith y staff presennol;
      • a fydd effaith ar ein gallu i fodloni anghenion ein cwsmeriaid;
      • a fydd unrhyw effaith negyddol ar ansawdd neu perfformiad yr adran / uned / swyddogaethau;
      • a oes digon o waith i’w wneud yn ystod y cyfnodau pan fydd yr aelod o staff dan sylw yn cynnig gweithio
      • a oes modd recriwtio staff ychwanegol;
      • newidiadau strwythurol arfaethedig;
      • pwysau unrhyw gostau ychwanegol.
    4. Y sefyllfa yn ôl y gyfraith yw y bydd unrhyw amrywiadau y cytunir arnynt yn y trefniadau gweithio yn golygu newid parhaol i gontract cyflogaeth yr aelod o staff dan sylw. Serch hynny, er mwyn cadw hyblygrwydd o safbwynt yr aelod o staff ac o ran PA, gellir gwneud cytundebau dros-dro neu arbrofol.
    5. Bydd unrhyw newid i gontract cyflogaeth yr aelod o staff sy’n digwydd o ganlyniad i’r polisi hwn (boed yn newid parhaol neu’n newid dros dro) yn cael ei gadarnhau yn ysgrifenedig gan Adnoddau Dynol.
  2. Pwy sy’n cael gwneud cais?

    1. I fod ar dir statudol i allu gwneud cais am drefniadau gweithio hyblyg, rhaid i’r aelod o staff fodloni’r meini prawf isod:
      • rhaid bod yng nghyflogaeth PA, ac yn gweithio i’r Brifysgol ers o leiaf 26 wythnos, yn ddi-dor, ar y dyddiad pan wneir y cais;
      • ni all fod yn weithiwr asiantaeth;
      • rhaid iddynt beidio â bod wedi gwneud cais arall i weithio’n hyblyg (ni waeth beth fo natur y cais hwnnw) o dan y polisi hwn yn y 12 mis diwethaf. Dim ond un cais y ceir ei wneud y flwyddyn.
    2. Mae’n rhaid i aelod o staff sy’n cyflwyno cais hefyd fodloni amod A neu B.

      Amod A

      • rhaid bod gan yr aelod o staff blentyn o dan un ar bymtheg oed, neu o dan ddeunaw oed os yw’r plentyn hwnnw yn anabl;
      • rhaid gwneud y cais o leiaf dwy wythnos cyn pen-blwydd y plentyn yn un ar bymtheg oed, neu ben-blwydd y plentyn yn ddeunaw oed os yw’r plentyn yn anabl;
      • rhaid bod yn gyfrifol, neu’n disgwyl bod yn gyfrifold, am fagu’r plentyn a rhaid i’r cais gael ei wneud er mwyn galluogi’r aelod o staff i ofalu am y plentyn;
      • haid i’r aelod o staff dan sylw:
        fod yn fam, yn dad, yn rhiant mabwysiol, yn warcheidwad, neu’n rhiant maeth y plentyn dan sylw;
        neu
        yn briod â, neu’n gymar i, fam, tad, rhiant mabwysiol, gwarcheidwad neu riant maeth y plentyn dan sylw;

      Amod B

      • fod â chyfrifoldeb, neu’n disgwyl cael cyfrifoldeb, dros ofalu am oedolyn sydd:
        1. yn briod â, neu’n gymar neu gymar sifil i’r aelod o staff;
        2. yn berthynas agos i’r aelod o staff, hy.. rhiant, rhiant yng nghyfraith, plentyn dros 18, plentyn mabwysiedig dros 18, brawd/chwaer, brawd neu chwaer yng nghyfraith, ewythr, modryb neu daid/nain;
        3. ddim yn dod o dan y categorïau uchod ond sy’n byw yn yr un cyfeiriad â’r aelod o staff.
    3. Os nad yw’r aelod o staff yn bodloni’r meini prawf uchod, nid oes ganddynt hawl statudol i wneud cais am drefniadau gweithio hyblyg, ond maent yn cael gwneud cais, e.e. os ydynt yn ofalwr cydnabyddedig i gymar neu berthynas agos sy’n anabl neu’n hen, neu os oes ganddynt blentyn dros un ar bymthed oed. Dylid cyflwyno ceisiadau o’r fath yn ôl y drefn a ddisgrifir yn y polisi hwn, ac fe ymdrinnir â cheisiadau o’r fath drwy ddilyn yr un drefn.
    4. Os bydd aelod o’r staff (sy’n bodloni amod B) yn awyddus i weithio trefniadau gweithio hyblyg ar frys mawr oherwydd rhyw newid annisgwyl yn ei amgylchiadau, bydd y Brifysgol yn ceisio darparu trefniadau gweithio hyblyg byrdymor drwy’r polisi hwn. Byddai’r trefniadau hynny yn dibynnu ar gytundeb unigol rhwng yr aelod o’r staff a’r cyflogwr, ac wrth trafod trefniadau o’r fath byddai’r unigolyn yn cadw’r hawl i gael cydweithiwr neu gynrychiolydd Undeb Llafur yn bresennol. Ni fyddai unrhyw gytundebau dros dro y cytunwyd arnynt yn effeithio dim ar unrhyw gais a wnaed wedyn am drefniadau gweithio hyblyg yn ôl y Polisi Gweithio Hyblyg.
    5. Os bydd deddfwriaeth newydd yn estyn yr hawl i wneud cais am drefniadau gweithio hyblyg i grwpiau eraill, bydd y grwpiau hynny yn cael eu cynnwys ym mholisi PA.
  3. Y Drefn

    Mae tri cham yn y drefn i wneud cais am drefniadau Gweithio Hyblyg:
    1. Cam Un – Gwneud y Cais
      1. Cyn llenwi’r ffurflen angenrheidiol mae’n bwysig bod yr aelod o staff sydd am wneud cais i weithio’n hyblyg yn ystyried yn ofalus y patrwm gweithio yr hoffai ei ddewis yng nghyd-destun anghenion y swydd ac anghenion gweithredol yr adran. Dyma rai o’r materion y dylid eu hystyried:
        • y patrwm gweithio presennol (dyddiau/oriau/amserau’r gwaith);
        • y patrwm newydd arfaethedig (dyddiau/oriau/amserau’r gwaith), gan ystyried y rhesymau am wneud y cais;
        • dyddiad dechrau arfaethedig y patrwm gweithio newydd;
      2. Dylai’r aelod o staff sy’n gwneud y cais gofio bod y broses yn gallu cymryd hyd at 14 wythnos i’w chwblhau, ac yn hwy na hynny weithiau os bydd problem yn codi. Dylid gwneud cais mewn da bryd felly;
        • goblygiadau ariannol y newid arfaethedig yn y patrwm gweithio – a fydd yn golygu llai o gyflog, ac os felly, faint yn llai?
        • sut y bydd y newid arfaethedig yn y patrwm gweithio yn effeithio ar yr adran, y Brifysgol a’r cydweithwyr?
        • sut y gellir ymdrin â’r effaith honno ar yr adran, ar y Brifysgol a’r cydweithwyr?
      3. Mae sawl math gwahanol o batrwm gweithio i’w hystyried, gan gynnwys:
        • newid yr oriau y mae’r aelod o staff yn eu gweithio;
        • newid yr amserau pan fo gofyn i’r aelod o staff weithio;
        • gweithio o adref (am y cyfan neu ran o’r wythnos).
        Dyma rai enghreifftiau o batrymau gweithio hyblyg:
        1. Oriau Blynyddol

          Sef amser gweithio wedi’i drefnu ar sail y nifer o oriau i’w gweithio dros flwyddyn yn hytrach nag wythnos; fel arfer fe’i defnyddir er mwyn ymdrin â gwaith gyda chyfnodau brysur a chyfnodau llai prysur. Mae’r tâl yn dibynnu ar yr oriau sy’n cael eu gweithio ym mhob cyfnod tâl.

        2. Oriau Cywasgedig

          Yn galluogi gweithwyr i weithio cyfanswm eu horiau cytunedig dros gyfnod byrrach. Er enghraifft, efallai y bydd gweithwyr yn gweithio eu horiau wythnosol llawn dros pedwar diwrnod yn lle pump, neu dros naw diwrnod mewn pythefnos yn hytrach na deg. Byddai’r gweithwyr yn cael eu talu am wneud gwaith swydd amser-llawn ond heb gael taliadau goramser am yr oriau ychwanegol y cytunir arnynt a wneir mewn unrhyw un diwrnod.

        3. Oriau Hyblyg

          Mae’r gweithwyr yn cael dewis eu horiau gwaith, sef fel arfer drwy ddewis oriau y tu allan i amseroedd craidd penodol y cytunir arnynt pan fydd rhaid gweithio. Mae unigolion yn cael eu talu am yr oriau y maent yn eu gweithio.

        4. Gweithio o Gartref

          Nid oes rhaid i drefn gweithio-o-gartref fod ar sail amser llawn ac fe allai fod yn gyfleus rhannu’r amser gweithio rhwng y cartref a’r gweithle. Mae’r tâl yn dibynnu ar yr oriau sy’n cael eu gweithio. Mae’r dewis o ran lleoliadau gwaith yn gyfyngedig i gartref y gweithiwr neu un o weithleoedd PA.

          Os yw’r swydd yn golygu bod rhaid defnyddio ffôn, cyfrifiadur, cyswllt â’r rhwydwaith cyfrifiadurol neu ryw offer tebyg, nid PA fydd yn darparu’r offer hynny. Rhaid i staff sy’n gwneud cais i weithio o’u cartref allu dangos eu bod yn gallu darparu’r offer angenrheidiol.

          Cyn y gellir gwneud cytundeb byddai angen i PCA gynnal asesiad risg o’r gweithgareddau y mae’r gweithiwr yn bwriadu eu gwneud, er mwyn dod o hyd i beryglon posib ac i benderfynu a oes modd cymryd camau digonol i leihau unrhyw berygl i’r gweithwyr eu hunain neu i unrhyw un arall y gallai’r gwaith effeithio arnynt. Ceir rhagor o fanylion am asesiadau risg ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (www.hse.gov.uk).

        5. Rhannu Swydd

          Fel rheol mae hyn yn golygu dau o bobl yn cael eu cyflogi i weithio’n rhan amser, ond yn cydweithredu â’i gilydd fel petai’n un swydd amser llawn. Mae’r ddau yn cael eu talu am yr oriau y maent yn eu gweithio.

        6. Gweithio Sifftiau

          Mae gweithio sifftiau yn golygu bod modd darparu gwasanaethau am gyfnodau hwy na diwrnod wyth-awr neu fod modd cael rhagor o staff i weithio ar adegau prysurach. Mae’n bosib na fydd angen talu premiwm sifftiau os deuir i gytundeb ar drefniadau gweithio hyblyg.

        7. Oriau Gwasgaredig

          Yn golygu bod staff yn gallu dechrau a gorffen eu diwrnodau gwaith ar adegau gwahanol. Bydd y tâl yn dibynnu ar gyfanswm yr oriau sy’n cael eu gweithio yn hytrach na’r amser pan fydd y staff yn gweithio.

        8. Gweithio yn ystod y Tymor

          Yn golygu bod staff yn cael cymryd absenoldeb heb dâl yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae staff sy’n gweithio’r patrwm hwn yn gorfod cymryd y gwyliau y maent yn cael eu talu amdanynt yn ystod gwyliau’r ysgol.

        9. Dewis Gweithio Llai o Oriau

          Yn golygu bod staff yn cael lleihau neu amrywio’r oriau sy’n cael eu gweithio (am lai o dâl os yw’r nifer o oriau yn cael eu lleihau). Gallai hyn fod yn gyfleus i bobl ag ymrwymiadau gofal tymor-byr neu fod o gymorth i rywun sy’n dod yn ôl i’r gwaith ar ôl salwch hir.

      4. Oherwydd yr amrywiaeth o ran yr adrannau, y swyddi, y cyfrifoldebau a’r gwasanaethau ar draws PA, ni fydd yr holl batrymau gwaith uchod yn addas i rai swyddi penodol neu fathau penodol o staff.
      5. Drwy gydol y broses, mae cyngor ar drefniadau gweithio hyblyg ar gael oddi wrth Adnoddau Dynol. Mae manylion cyswllt aelodau perthnasol o staff Adnoddau Dynol ar gael ar wefan Adnoddau Dynol (ar gael o wefan PA www.aber.ac.uk).
      6. Ar ôl i’r materion gael eu hystyried, dylid llenwi’r Ffurflen Gais am drefniadau gweithio hyblyg. Rhaid llofnodi’r ffurflen, rhoi’r dyddiad, a’i hanfon at y Pennaeth Adran perthnasol (oni bai y dywedir fel arall isod) gan anfon copi hefyd at y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.

        Sylwer: mae’r Ffurflen Gais am drefniadau gweithio hyblyg yn PA wedi’i darparu i gynorthwyo â’r broses ymgeisio. Serch hynny, fe ellir anfon cais drwy lythyr, ffacs neu ebost, ond mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth y gofynnir amdani yn y Ffurflen Gais (sy’n cydymffurfio â’r rhestr wirio ar gyfer ceisiadau yng nghanllawiau’r Adran Masnach a Diwydiant).

      7. Rhaid i Benaethiaid Adrannau Academaidd, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth, Deoniaid, Dirprwy Is-Gangellorion ac aelodau eraill o Dîm yr Uwch Reolwyr (y Cofrestrydd, y Cyfarwyddwr Cyllid, Cyfarwyddwr Cynllunio a’r Gofrestrfa Academaidd) gyflwyno eu ceisiadau hwy i’r Is-Ganghellor. Rhaid i Benaethiaid y Gwasanaethau Canolog anfon eu ceisiadau hwy at y Cofrestrydd. Rhaid i staff a gyflogir yn Adnoddau Dynol anfon eu ceisiadau at y Cofrestrydd. Ym mhob achos dylid anfon copi o’r ffurflen gais at y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol hefyd.
    2. Cam Dau – Ystyried y Cais
      1. Ar ôl i Bennaeth yr Adran wedi cael copi o’r Ffurflen Gais am Drefniadau Gweithio Hyblyg dylai sicrhau bod y ffurflen wedi’i llenwi yn iawn, ac yn cynnwys llofnod a’r dyddiad. Dylid wedyn ysgrifennu at yr aelod o staff yn cadarnhau bod y cais wedi dod i law. Os nad yw’r unigolyn wedi rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen, dylai’r Pennaeth roi gwybod am beth sydd wedi’i hepgor, gan ofyn i’r aelod o staff ailgyflwyno’r cais gyda’r holl fanylion angenrheidiol. Dylid dweud wrth yr aelod o staff na fydd y cais yn cael ei ystyried nes bod y ffurflen wedi’i llenwi’n iawn a’i hailgyflwyno.
      2. Pan fydd Pennaeth Adran yn cael ffurflen gais am drefniadau gweithio hyblyg, dylai gydlynu â’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol (neu’r sawl a enwebwyd gan y Cyfarwyddwr) i drafod y cais. Ymgynghorir â Chadeirydd y Pwyllgor Staffio ynghylch y cais ar yr adeg honno. Ar ôl rhoi ystyriaeth briodol i’r cais, bydd Pennaeth yr Adran (neu’r sawl a enwebwyd gan y Pennaeth) yn trefnu cyfarfod â’r aelod o staff, gyda’r sawl a enwebwyd gan Adnoddau Dynol, ymhen 28 diwrnod ar ôl i’r ffurflen gais ddod i law.
      3. Mae gan yr aelod o staff yr hawl i ddod â chydweithiwr o PA i unrhyw gyfarfodydd i drafod y cais; gallai’r cydweithiwr hwnnw fod yn gynrychiolydd un o Undebau Llafur cydnabyddedig y campws. Nod y cyfarfodydd yw trafod manylion y patrwm gweithio arfaethedig. Efallai y bydd yn briodol ystyried patrymau gweithio eraill os credir na ellir, yn rhesymol, dderbyn y cais gwreiddiol. Anogir pob carfan i ddod o hyd i drefniant adeiladol, priodol a chyfeillgar er mwyn bodloni’r cais. Dylai’r trafodaethau ystyried posibiliadau cyfnod arbrofol (gan gynnwys dyddiadau ar gyfer adolygu’r trefniadau) neu drefniadau dros dro. Bydd cyfnodau arbrofol neu drefniadau dros dro hyd at 6 mis yn cael eu cyfrif yn rhan o’r cais gwreiddiol am drefniadau gweithio hyblyg, yn hytrach na chais ar wahân.
      4. Dylid rhoi gwybod i’r aelod o staff, yn ysgrifenedig, am ganlyniad y cyfarfod ymhen 14 diwrnod ar ôl y cyfarfod. Serch hynny, mae’n bosib y bydd achlysuron pan na fydd modd cwblhau rhyw ran benodol o’r drefn o fewn y terfyn amser penodedig, e.e. os bydd angen rhagor o amser er mwyn siarad ag aelod arall o’r staff neu os bydd yr aelod o’r staff yn absennol.
      5. Os digwydd amgylchiadau o’r fath, gellir cytuno i estyn yr amser, ond bydd rhaid i Bennaeth yr Adran wneud cofnod ysgrifenedig o’r cytundeb, yn rhoi manylion y cyfnod o amser y mae’r estyniad yn berthnasol iddo, a’r dyddiad pan ddaw’r estyniad i ben. Rhaid anfon copi o’r cofnod hwnnw at yr aelod o staff a wnaeth y cais.
      6. Os nad yw’r aelod o staff yn dod i gyfarfod fwy nac unwaith a hynny heb esboniad rhesymol, gallai PA drin y cais fel petai wedi’i dynnu’n ôl. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylai Pennaeth yr Adran ysgrifennu at yr aelod o staff dan sylw yn cadarnhau bod y cais yn cael ei gyfrif fel petai wedi’i dynnu’n ôl.
    3. Cam Tri – Ymateb Ffurfiol i’r Cais

      Dyma’r canlyniadau posib i’r cais, fel y’i cyflwynwyd yn wreiddiol neu fel y’i diwygiwyd yng Ngham Dau:

      1. Cytunir i’r cais.

        Bydd yr aelod o staff yn cael cadarnhad ysgrifenedig oddi wrth Adnoddau Dynol yn rhoi manylion y patrwm gweithio newydd; y newidiadau priodol i’r telerau a’r amodau cyflogaeth a’r dyddiad pan ddaw y trefniadau newydd i rym. Bydd angen i’r aelod o staff lofnodi’r ddogfen i gadarnhau ei fod yn derbyn y newid parhaol i’r contract cyflogaeth.

        Wrth ystyried y trefniadau newydd sydd ar y gweill, dylai Pennaeth yr Adran sicrhau bod yr holl ofynion iechyd a diogelwch wedi’u bodloni, ac yn ystyried i bwy yn PA y mae angen rhoi gwybod am y newid.

      2. Gwrthodir y cais.

        Os gwrthodir y cais bydd yr aelod o staff yn cael esboniad ysgrifenedig yn rhoi manylion y rhesymau am ei wrthod ac yn esbonio pam y maent yn gymwys yn yr achos hwn. Bydd yr esboniad yn cael ei ysgrifennu mewn Cymraeg neu Saesneg clir ac yn cynnwys y ffeithiau perthnasol.

        Rhaid cynnwys manylion am hawl yr aelod o staff i apelio hefyd (gweler adran 4 o’r polisi hwn).

      3. Cytunir i’r cais am gyfnod arbrofol.

        Os ceir pryderon o safbwynt materion busnes (yn ôl y disgrifiad yn adran 1 o’r polisi hwn), mae’n bosib y cynigir cyfnod arbrofol hyd at 6 mis. Bydd trefniadau o’r fath yn cael eu cadarnhau yn ysgrifenedig gan Adnoddau Dynol.

        Drwy gytuno i’r dewis hwn, mae’r aelod o’r staff a PA yn cydnabod bod y cyfnod i ystyried y cais yn cael ei estyn tan 28 diwrnod ar ôl i’r cyfnod arbrofol ddod i ben.

        Ar ddiwedd y cyfnod arbrofol bydd Pennaeth yr Adran yn adolygu’r sefyllfa, yn unol â’r prosesau a roddir yng Ngham Dau. Ar yr adeg hon, fe ellir derbyn neu wrthod y cais, neu fe ellir cynnig trefn arall. Beth bynnag fo’r casgliad, bydd Adnoddau Dynol yn anfon cadarnhad at yr aelod o staff.

        Os cytunir i’r cais ar ôl y cyfnod arbrofol, gweler adran 3.3.1 o’r polisi hwn.

        Os gwrthodir y cais ar ôl y cyfnod arbrofol, gweler adran 3.3.2 o’r polisi hwn.

        Os, ar ôl y cyfnod arbrofol, cytunir i’r cais am gyfnod penodedig yn unig, neu os cynigir trefniadau eraill, gweler adran 3.3.4 o’r polisi hwn.

      4. Cynigir trefniadau eraill.

        Ar ôl i’r cais am drefniadau gweithio hyblyg gael ei ystyried (gyda chyfnod arbrofol neu heb un), os bydd Pennaeth yr Adran yn pryderu ynghylch materion busnes penodol, mae’n bosib y bydd yn cytuno i’r cais ond am gyfnod penodedig yn unig, neu fe ellir cynnig trefniadau eraill.

        Bydd yr aelod o staff yn cael esboniad ysgrifenedig o’r cynnig a, gan fod y cais gwreiddiol wedi’i wrthod, fe roddir y rhesymau am ei wrthod yn esbonio pam y maent yn gymwys yn yr achos hwn. Bydd manylion hawl yr aelod o staff i apelio yn cael eu cynnwys hefyd (gweler adran 4 o’r polisi hwn).

        Rhaid rhoi gwybod am bob cais a phob penderfyniad i’r Pwyllgor Staffio.

  4. Y Drefn Apelio

    [Nodwch: Cymeradwywyd y polisi hwn gan y Pwyllgor Staffio. Fodd bynnag, bydd ymgynghoriad pellach gydag Undebau Llafur cydnabyddedig y campws ynghylch yr adran ar weithdrefnau apelio]
    1. Os gwrthodir cais am drefniadau gweithio hyblyg neu os nad oes modd cytuno ar gynnig trefniadau eraill, caiff yr aelod o staff apelio. Dylid cyflwyno apêl yn ysgrifenedig i Bennaeth yr Adran (heblaw yn yr achosion a roddir isod), ac anfon copi at y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.
    2. Yn achos ceisiadau gan Benaethiaid Adrannau a Deoniaid, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth, Dirprwy Is-Gangellorion ac aelodau eraill o Dîm yr Uwch Reolwyr (sef y Cofrestrydd, y Cyfarwyddwr Cyllid, Cyfarwyddwr Cynllunio a’r Gofrestrfa Academaidd) rhaid cyflwyno’r apêl i’r Llywydd. Dylai Penaethiaid adrannau’r Gwasanaethau Canolog a staff Adnoddau Dynol gyflwyno eu hapeliadau hwy i’r Cofrestrydd. Ym mhob achos, dylid anfon copi o’r apêl at y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.
    3. Dyma’r unig resymau dilys am gyflwyno apêl:
      • ni ddilynwyd y broses iawn
        neu
      • mae gwybodaeth ychwanegol i’w chyflwyno
    4. Rhaid i’r aelod o staff wneud yr apêl yn ysgrifenedig, ymhen 14 diwrnod gwaith ar ôl cael gwybod am y penderfyniad, yn dweud ar ba sail y gwneir yr apêl.
    5. Bydd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol (neu’r sawl a enwebwyd gan y Cyfarwyddwr) yn trefnu cyfarfod o’r Panel Apelio ymhen 14 diwrnod gwaith ar ôl gael yr hysbysiad am yr apêl. Bydd y Panel Apelio yn cynnwys y Dirprwy Is-Ganghellor sy’n gyfrifol am faterion staffio (yn Gadeirydd) a dau aelod o’r Pwyllgor Staff, ac fe ddylai un o’r rheiny fod yn aelod lleyg o’r Cyngor. Ni fydd aelodau’r panel wedi chwarae unrhyw ran yn y cais hyd yma. Bydd aelod a enwebir o’r Adran Adnoddau Dynol yn gweinyddu yn ysgrifennydd i’r panel.

      Sylwer: mewn achosion lle y mae’r apêl yn cael ei gwneud gan aelod o Dîm yr Uwch Reolwyr, bydd y Llywydd, neu rywun a enwebir gan y Llywydd, yn cymryd lle’r Dirprwy Is-Ganghellor ar y Panel Apelio; ni fydd newid o ran yr aelodau eraill.

    6. Bydd y Panel Apelio yn ymgynnull i ystyried a fu’r broses yn cael ei dilyn yn gywir ac a yw’r materion busnes a fu’n sail am wrthod y cais, neu am gynnig trefniadau eraill, yn rhesymol ai peidio.
    7. Wrth ddod i’w benderfyniad, mae gan y Panel Apelio yr hawl i gyfarfod â Phennaeth yr Adran berthnasol, yr aelod o staff a gyflwynodd y cais ac unrhyw aelod arall o staff a welir yn berthnasol i’r cais..
    8. Mae gan yr aelod o staff yr hawl i ddod â chydweithiwr PA i’r cyfarfodydd apelio, ac fe allai’r cydweithiwr fod yn gynrychiolydd o Undeb Llafur cydnabyddedig y campws.
    9. Caiff yr aelod o staff hysbysiad ysgrifenedig ynghylch canlyniadau’r cyfarfod apelio ymhen 14 diwrnod gwaith.
  5. Adolygu’r Polisi

    1. Caiff y Polisi Gweithio Hyblyg ei adolygu ar ôl blwyddyn, a phob tair blynedd ar ôl hynny, neu cyn hynny os bernir bod angen. Cynhelir yr adolygiadau hyn er mwyn sicrhau bod y polisi yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r ymarfer gorau.
    2. Bydd Adnoddau Dynol yn cyflwyno adroddiad bob blwyddyn academaidd i’r Pwyllgor Staffio am bob cais am drefniadau gweithio hyblyg a wneir i PA, ac am ganlyniadau’r ceisiadau hynny.

Fersiwn 270308