Gweithdrefn mewn achosion o Anfodlonrwydd

Diben a Chwmpas y Weithdrefn

  1. Nod y weithdrefn hon yw datrys neu gywiro achosion unigol o anfodlonrwydd yn brydlon, yn deg, ac i’r graddau y gellir gwneud hynny, o fewn i’r Gyfadran, yr Adran neu fan perthnasol arall drwy ddulliau sy’n dderbyniol i bob parti.
  2. Yng nghyd-destun y weithdrefn hon, diffinnir “Is-Ganghellor a Phrifathro” i gynnwys Dirprwy Is-Ganghellor, neu berson tebyg arall a benodir gan yr Is-Ganghellor a Phrifathro i ystyried neu benderfynu materion ar ei r/rhan.
  3. Os bydd anfodlonrwydd wedi ei fynegi yn erbyn yr Is-Ganghellor a Phrifathro, gall yr aelod o’r Staff Academaidd wneud cais i’r Llywydd gywiro’r anfodlonrwydd.
  4. Caiff y modd y gweithredir y weithdrefn hon ei adolygu o dro i dro gan y Brifysgol mewn ymgynghoriad â’r Undeb perthnasol (UCU). Caiff y staff a enwir ym mharagraff 2 eu hysbysu o unrhyw ddiwygiad a rhoddir gwybod iddynt hefyd am y dyddiad y daw’r diwygiad i rym.

Perthnasedd

  1. Yr achosion o anfodlonrwydd sy’n berthnasol i’r weithdrefn hon yw’r rhai hynny gan aelodau o’r Staff Academaidd, gan gynnwys staff a gyflogir ar Raddfeydd Academaidd Berthnasol, sy’n ymwneud â materion penodi neu gyflogaeth a lle bo’r anfodlonrwydd yn ymwneud â:
    • materion sy’n effeithio arnynt hwy fel unigolion neu;
    • faterion sy’n effeithio ar eu hymwneud neu gysylltiadau personol â staff eraill yn y Brifysgol, ond heb fod yn faterion y mae Statud 22 yn darparu’n benodol ar eu cyfer.

Eithriadau a Gweithdrefnau Anffurfiol

  1. Os dihysbyddwyd pob ateb posibl arall o fewn i’r Gyfadran, yr Adran neu fan perthnasol arall, gall yr aelod o’r Staff Academaidd godi’r mater â Phennaeth y Gyfadran, yr Adran neu fan perthnasol arall.
  2. Os bydd yr aelod o’r Staff Academaidd yn anfodlon â chanlyniad dull a weithredwyd o dan baragraff 6 neu os yw’r anfodlonrwydd yn ymwneud yn uniongyrchol â Phennaeth y Gyfadran, yr Adran neu fan perthnasol arall, gall yr aelod wneud cais ysgrifenedig i’r Is-Ganghellor a Phrifathro gywiro’r anfodlonrwydd.
  3. Os bydd yr Is-Ganghellor a Phrifathro o’r farn fod y mater wedi ei benderfynu’n derfynol yn ôl Rhan III, IV neu V Statud 22, neu fod yr achos o anfodlonrwydd yn ddi-nod neu yn annilys, gall ef/hi ei wrthod yn y fan a’r lle, neu ddewis peidio â gweithredu arno. Os mai felly y bydd yn ymddangos i’r Is-Ganghellor a Phrifathro, bydd ef/hi yn hysbysu’r aelod a’r Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd, os y’i penodwyd eisoes gan y Cyngor, yn unol â hynny. Os na phenodwyd Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd, caiff penderfyniad yr Is-Ganghellor a Phrifathro i wrthod achos o anfodlonrwydd yn y fan a’r lle ei adrodd wrth gyfarfod nesaf y Pwyllgor Staffio.
  4. Os yw’r Is-Ganghellor a Phrifathro yn fodlon y gellid ystyried pwnc yr achos o anfodlonrwydd yn iawn drwy (neu ffurfio’r cyfan neu unrhyw ran o):
    • gŵyn yn ôl Rhan III Statud 22;
    • penderfyniad yn ôl Rhan IV Statud 22; neu
    • apêl yn ôl Rhan V Statud 22
    bydd ef/hi yn gohirio gweithredu o dan delerau’r Weithdrefn mewn achosion o Anfodlonrwydd hyd nes bydd y gŵyn, y penderfyniad neu’r apêl berthnasol wedi ei ch/glywed neu fod y cyfnod ar gyfer cychwyn y broses wedi mynd heibio a bydd ef/hi yn hysbysu’r aelod a’r Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd, os y’i penodwyd eisoes gan y Cyngor, yn unol â hynny.
  5. Os na bydd yr Is-Ganghellor a Phrifathro yn gwrthod y gŵyn o dan baragraff 8, neu os na bydd ef/hi yn peidio â gweithredu o dan baragraff 9, bydd ef/hi yn penderfynu a fyddai’n briodol, o ystyried cyfiawnder a thegwch, iddo/iddi geisio penderfynu’r achos yn anffurfiol. Os bydd ef/hi yn penderfynu felly, bydd ef/hi yn hysbysu’r aelod ac, os y’i penodwyd eisoes gan y Cyngor, y Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd, ac yn mynd ati yn unol â hynny.
  6. Caiff unrhyw gŵyn neu fynegiant o anfodlonrwydd o fewn i dermau’r statud ac y rhoddwyd gwybod amdanynt yn briodol yn ysgrifenedig, eu trafod yn unol â rhan berthnasol y statud.

Gweithdrefn y Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd

  1. Oni phenderfynwyd yr achos yn anffurfiol o dan baragraff 10, bydd yr Is-Ganghellor a Phrifathro yn cyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd i’w ystyried.
  2. Bydd y Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd a benodir gan y Cyngor yn cynnwys:
    • Cadeirydd;
    • aelod o’r Cyngor nad yw’n aelod o staff a gyflogir gan y Brifysgol;
    • un aelod o’r Staff Academaidd a enwebir gan y Senedd
  3. Yn absenoldeb cyfarfod o’r Cyngor a/neu’r Senedd ymhen 28 diwrnod ar ôl i’r aelod o’r Staff Academaidd wneud cais ysgrifenedig i’r Is-Ganghellor a Phrifathro ddatrys yr achos o anfodlonrwydd, rhoddir yr hawl i Gadeirydd y Cyngor, ar ran y Cyngor, benodi aelodau’r Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd yn ôl yr angen.
  4. Ni bydd gan aelodau’r Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd unrhyw gysylltiad blaenorol uniongyrchol â phwnc y gŵyn na’r anfodlonrwydd.

Gweithdrefn mewn cysylltiad â phenderfyniadau; a hawl i gynrychiolaeth

  1. Fel arfer, trefnir cyfarfod o’r Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd ymhen 14 diwrnod ar ôl i’r Is-Ganghellor a Phrifathro gyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd i’w ystyried.
  2. Rhoddir lleiafswm o bedwar diwrnod ar ddeg o rybudd o’r gwrandawiad i’r unigolyn anfodlon ac i’r sawl yr ydys yn anfodlon yn ei gylch. Fe’u hysbysir o bwrpas y cyfarfod a’u gwahodd i’w fynychu yng nghwmni ffrind neu gynrychiolydd o’u dewis.
  3. Os bydd rheswm da paham na all yr unigolyn anfodlon neu’r sawl yr ydys yn anfodlon yn ei gylch fynychu’r gwrandawiad ar y dyddiad penodedig, fe’i gohirir a hysbysir y partïon o’r dyddiad newydd yn ysgrifenedig yn ddi-oed. Os, ym marn Cadeirydd y Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd, y bydd yr unigolyn anfodlon neu’r sawl yr ydys yn anfodlon yn ei gylch yn gwrthod mynychu’r gwrandawiad heb reswm digonol, rhoddir yr awdurdod iddo/iddi wrthod yr achos o anfodlonrwydd oherwydd diffyg erlyniaeth, oherwydd i’r unigolyn anfodlon beidio â mynychu’r gwrandawiad, neu i ystyried a phenderfynu’r mater ar sail y dystiolaeth sydd ar gael iddo/iddi yn absenoldeb y naill barti na’r llall.
  4. Bydd gan yr unigolyn anfodlon a’r sawl yr ydys yn anfodlon yn ei gylch yr hawl i weld unrhyw ddogfennau a gyflwynir fel tystiolaeth i’r Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd.
  5. Gall y Cadeirydd ac aelodau eraill y Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd ofyn cwestiynau i’r unigolyn anfodlon, ac i’r sawl yr ydys yn anfodlon yn ei gylch, i’w cynorthwyo wrth ystyried yr achos o anfodlonrwydd.

Hysbysu’r penderfyniad

  1. Bydd y Pwyllgor yn hysbysu’r Cyngor beth bynnag fo canlyniad yr achos o anfodlonrwydd, ac oni cheir penderfyniad bydd y Pwyllgor yn gwneud y cynigion ar gyfer datrys yr achos o anfodlonrwydd fel y gwêl orau.
  2. Oni bydd y Cyngor yn cyfarfod cyn pen cyfnod o 28 diwrnod ar ôl i’r Pwyllgor Achosion Anfodlonrwydd ddod i benderfyniad, bydd Cadeirydd y Cyngor, ar ran y Cyngor, yn derbyn yr adroddiad a bydd yn derbyn awdurdod y Cyngor i weithredu’n briodol wrth drafod y mater ar ran y Cyngor.

Fersiwn 15.07.08 2