Hawliau Eiddo Deallusol
Dalier sylw: Mae’r polisi hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd
Patentau, Hawlfraint a Chyhoeddiadau
Mae perchnogaeth Hawliau Eiddo Deallusol a grewyd gan gyflogeion yn ystod eu cyflogaeth yn cael ei lywodraethu gan ystatud sy’n darparu ar gyfer perchnogaeth gan y cyflogwr oni bai bod cytundeb i’r gwrthwyneb.
Ar sail y sefyllfa hon, ac er mwyn i’r Brifysgol a’i chyflogeion gael budd o’r ymelwa ar hawliau eiddo deallusol, datblygodd y Brifysgol y trefniadau canlynol.
Gwasanaethau Ymchwil, Datblygiadau Newydd a Busnes
Mae swyddfa’r Gwasanaethau Ymchwil, Datblygiadau Newydd a Busnes [RIBS] yn gyfrifol am ddiogelu Hawliau Eiddo Deallusol y Brifysgol drwy gyd-drafod ymchwil a chontractau eraill sy’n cynnwys noddwyr allanol a, lle mae hynny’n briodol, drwy reoli’r broses patentu. Dylai unrhyw aelod o’r staff sy’n dymuno trafod diogelu Hawliau Eiddo Deallusol ymgynghori â Chyfarwyddwr RIBS cyn gynted ag y bo modd ac yn sicr cyn datgelu’r syniad i drydydd parti ar lafar nac yn ysgrifenedig. Gallai datgeliad ‘cyhoeddus’ ac eithrio dan delerau cytundeb cyfrinachedd, yn hawdd wneud cais diweddarach am batent yn ddi-rym a lleihau’r gallu i ymelwa arno o ganlyniad.
Yn aml mae ymelwa ar Hawliau Eiddo Deallusol sy’n deillio o raglenni ymchwil yn amod derbyn ariannu cyhoeddus ac mae’n bwysig gwneud darpariaeth ddigonol am hyn ar y cychwyn. Unwaith eto, gall cyswllt cynnar â RIBS hwyluso’r broses hon.
Dyfeisiadau a Phatentau
Mae perchnogaeth yr Hawliau Eiddo Deallusol mewn dyfeisiadau patentadwy a wnaed gan gyflogeion y Brifysgol ac sy’n deillio o brosiectau ymchwil a gyllidwyd ag arian cyhoeddus neu drwy nawdd preifat, yn perthyn yn y lle cyntaf i’r Brifysgol. Os, yn ystod unrhyw waith sy’n rhan o’u contract, y bydd aelodau’r staff yn creu dyfais y maent yn credu y gellid ymelwa’n fasnachol arni, dylent roi gwybod i RIBS am hynny ac ymgynghori â’r Brifysgol i weld a ddylid cymryd camau i ddiogelu ac ymelwa ar y ddyfais a sut i wneud hynny. Mae hyn yn gymwys yn achos pob categori o ymchwil sy’n defnyddio adnoddau’r Brifysgol ac yn derbyn tâl drwy’r Brifysgol.
Os, o ganlyniad i ymgynghori o’r fath, y bydd y Brifysgol yn penderfynu nad yw’n dymuno cymryd rhan yn natblygiad y ddyfais nac ymelwa arni, bydd manteision y ddyfais yn perthyn i’r aelod(au) o’r staff. Ar wahân i hynny, bydd y Brifysgol yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb o ddatblygu’r ddyfais ymhellach ac o ymelwa arni a bydd yr aelod(au) o’r staff, dan gyfarwyddyd y Brifysgol, yn gwneud unrhyw un o’r canlynol:
- Cydweithio â’r Brifysgol yn yr ymelwa ar y ddyfais;
- Cymryd rhan mewn cytundebau addas i ddiogelu cyfrinachedd y ddyfais oni bai neu hyd nes y bydd wedi ei phatentu;
- Cydweithio â’r Brifysgol wrth geisio am amddiffyniad patent yn y DU neu yn rhywle arall;
- Neilltuo unrhyw batent a roddir yn eu henwau eu hunain a’r Brifysgol ar y cyd;
- Cydweithio â’r Brifysgol i ddod â’r ddyfais i sylw grŵp masnachol addas i’w asesu ac, os gwelant yn dda, i ymelwa arni o dan ei nawdd.
Tra bydd hawliau’r patent yn eiddo i’r Brifysgol, bydd gan y dyfeisydd(dyfeiswyr) hawl i “gyfran deg o’r budd” a gaiff ei benderfynu yn unol â’r paragraff isod ar Rannu Buddion Ymelwa ar Hawliau Eiddo Deallusol.
Hawlfraint a Chyhoeddiadau
Mae diogelu hawlfraint yn berthnasol i amrywiaeth eang o waith sy’n cael ei greu gan gyflogeion y Brifysgol yn ystod eu cyflogaeth.
- Mae’r Brifysgol yn cytuno y bydd hawlfraint unrhyw waith a gyhoeddir (llyfrau, papurau ymchwil ayyb.) yn eiddo i’r awdur oni bai bod diddordeb yn y gwaith gan drydydd parti yn deillio, er enghraifft, o gytundeb neu gontract ymchwil.
- Yn yr un modd, mae’r Brifysgol yn cytuno y bydd aelodau’r staff academaidd yn berchen hawlfraint unrhyw ddeunydd cwrs a gynhyrchwyd ganddynt i ddibenion addysgu yn ystod cyfnod eu cyflogaeth. Yn gyfnewid am hyn, bydd y Brifysgol yn derbyn trwydded awtomatig i ddefnyddio deunydd o’r fath i gyflwyno modiwl neu gwrs gan y Brifysgol neu i’w rhyddfreinio ar gyfer ei gyflwyno dan drwydded gan y Brifysgol. Bydd y drwydded awtomatig y cyfeirir ati uchod yn fyd-eang, yn ddiwrthdro ac yn ddi-freindal.
- Bydd hawlfraint unrhyw feddalwedd, ffilm neu waith amlgyfrwng a gynhyrchir gan gyflogeion yn ystod eu cyflogaeth arferol gan y Brifysgol yn eiddo i’r Brifysgol. Yn amodol ar unrhyw hawliau trydydd parti a allai fodoli, bydd y Brifysgol yn rhoi trwydded awtomatig i’r awdur(on) i ddefnyddio a delio mewn deunydd hawlfraint o’r fath i ddiben cyhoeddiad academaidd a, lle bo hynny’n addas, i’w ddefnyddio mewn cymwysiadau o natur anfasnachol.
- Bydd hawlfaraint unrhyw gynlluniau, manylebau neu weithiau eraill a all fod yn angenrheidiol i ddiogelu hawliau mewn eiddo deallusol y gellir ymelwa’n fasnachol arno yn eiddo i’r Brifysgol.
Polisi’r Brifysgol yw rhannu manteision ymelwa ar ddeunydd hawlfraint gyda’r cychwynnydd/cychwynwyr yn unol â’r ddarpariaeth yn y paragraff isod ar Rannu Buddion Ymelwa ar Hawliau Eiddo Deallusol.
Rhannu Buddion Ymelwa ar Hawliau Eiddo Deallusol
Mae’r hyn a ganlyn yn nodi sail dull y Brifysgol o rannu gyda’i chyflogeion unrhyw fuddiannau sy’n deillio o ymelwa masnachol ar Hawliau Eiddo Deallusol a gynhyrchir drwy ymchwil a gweithgareddau eraill.
Ar ôl tynnu allan gostau angenrheidiol yr aed iddynt, bydd y buddion net a dderbynnir gan y Brifysgol yn cael eu rhannu fel y dangosir isod:
| Derbyniadau Net £,000 | Dyfeisydd | Adran | Gweinyddiaeth ganolog |
|---|---|---|---|
| Hyd at 25 | 70% | 10% | 20% |
| Y 65 nesaf | 60% | 20% | 20% |
| Dros 90, nes bydd hawlfreintiau cronnol yn cyrraedd 50% | 40% | 30% | 30% |
| Yn dilyn hynny | 50% | 30% | 20% |
Mewn achosion lle ceir cyd-gychwynwyr penderfynir a chytunir ar gyfran y ‘Dyfeisydd’ cyn i’r ymelwa gychwyn.
Fersiwn V060307
