Mewnfudo a Fisas

Mae’r dudalen hon yn cynnig arweiniad ynglŷn â chyfraith mewnfudo’r DU i aelodau staff, gweithwyr ac ymwelwyr â’r brifysgol.

Bydd y dolenni isod yn eich cyfeirio at wybodaeth a ddarperir gan Fisau a Mewnfudo y DU.

Caniateir i fwyafrif dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (a’r Swistir) fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig heb fisa. Fodd bynnag, mae gwladolion Croateg o dan gyfyngiadau dros dro a dylent gyfeirio at y canllawiau hyn os ydynt yn dymuno gweithio yn y DU. 

Bydd angen i bob gweithiwr cyn dechrau gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth gwblhau gwiriad hawl i weithio gydag aelod hyfforddedig o staff. Bydd angen i’r cyflogai newydd ddod â dogfen swyddogol i mewn sy’n bodloni’r Right to Work Checklist. Dylai staff adrannol hyfforddedig ddefnyddio'r rhestr wirio hon ochr yn ochr â'r ffurflen llofnod Right to work signature form (word) fel rhan o'r broses hon. Mae Right to Work Guidance (PDF) ar gael a gellir rhoi enghreifftiau i staff i dynnu sylw at y broses newydd.

Mae croeso i’r holl staff presennol neu unigolion sy’n ystyried gwneud cais i weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau Gweithwyr (hr@aber.ac.uk  /  01970 628555) i drafod unrhyw ymholiadau neu bryderon sydd ganddynt ynghylch fisas a mewnfudo.

Staff Ymweld
Prawf Marchnad Lafur Preswyl
Visa Gweithiwr Medrus
Haen 5