Darfu ar Gwasanaeth AD
Annwyl Gydweithiwr
O 19 Tachwedd 2102 tan 5 Ionawr 2013 mae'n bosib y bydd rhywfaint o darfu ar wasanaethau Adnoddau Dynol o ganlyniad i waith adeiladu mawr sydd yn cael ei wneud yn 12 Y Parc Gwyddoniaeth yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhai aelodau o'r tîm yn cael eu hail-leoli i naill ai campws Penglais neu Gogerddan. Bydd gwybodaeth am fanylion cyswllt diwygiedig yn cael eu harddangos ar wefan Adnoddau Dynol cyn gynted ag y bo modd. Ni fydd cyfleusterau cyfarfod ar gael yn 12 Y Parc Gwyddoniaeth yn ystod y cyfnod hwn ac mae trefniadau amgen yn cael eu gwneud i alluogi staff Adnoddau Dynol i barhau i gwrdd â staff. Os oes gennych gyfarfod sydd eisoes wedi ei drefnu gydag unrhyw aelod o'r tîm Adnoddau Dynol yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch ag ef/hi er mwyn trefnu lleoliad newydd. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw'r gwaith hwn yn tarfu'n ormodol ar ein gwasanaethau ac nid ydym yn rhagweld y bydd unrhyw effaith i gyfathrebu drwy e-bost.
Susan Chambers, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
