Polisïau a Gweithdrefnau

(Gweler yn ogystal Telerau ac Amodau Cyflogaeth)

Mae’r dogfennau yn yr adran hon o dudalennau gwe Adnoddau Dynol yn nodi’r telerau a’r amodau sy’n rheoli’r berthynas rhwng Prifysgol Aberystwyth a’i chyflogedigion ac yn cynnwys polisïau a dulliau gweithredu’r Brifysgol sy’n ymwneud ag adnoddau dynol.

Lluniwyd fformat y tudalennau a’r dogfennau i’w defnyddio’n hawdd ac i roi gwybod i staff am eu hawliau a’u dyletswyddau mewn modd syml a chryno. Mae rhannau o’r dogfennau hyn yn egluro darpariaethau cyfraith cyflogaeth; yn amlwg, mae’r gyfraith ei hun yn drech na’r eglurhad ohoni a geir yma, ac ni ellir cael unrhyw hawliau o’r eglurhad hwn fel y cyfryw. Ymhellach, ni ellir cael unrhyw hawliau o’r dogfennau a fyddai, petaent yn cael eu gweithredu, yn torri dyletswyddau Prifysgol Aberystwyth a’i chyflogedigion i weithredu fel “cyflogwr da” a “chyflogedigion da” o dan gyfraith cyflogaeth.

Gall y Brifysgol newid cynnwys y tudalennau hyn ar unrhyw adeg. Pan fo’n briodol, eir ati i ymgynghori â’r Undebau Llafur cydnabyddedig.

Bydd y testun llawn, fel y mae ar unrhyw adeg, i’w gael ar y tudalennau hyn yn unig. Felly, dylai’r staff fwrw golwg ar y wefan yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn gwybod am unrhyw ddatblygiadau.

Os bydd gan unrhyw aelod o staff broblem ynghylch cael y wybodaeth neu os bydd arnynt angen rhagor o eglurhad ynglŷn ag unrhyw agwedd ar gynnwys y dogfennau, cysylltwch ag aelod uwch o staff yr Adran Adnoddau Dynol.

Ar gyfer gwybodaeth, nodir isod bod rhai dogfennau yn cael ei hadnewyddu (nodir fel "ADN") gan Prifysgol Aberystwyth neu yn cael ei cyfieithu (nodir fel "CYF").

Polisi Urddas a Pharch yn y Gwaith

Disgyblaeth

Gamymddwyn wrth wneud Ymchwil

Staff Academaidd a Pherthynol

 

Staff Ategol a Chynorthwyol

Cydraddoldeb ac Amrywioldeb

Graddio Rolau

Iechyd a Lles

Ffurflenni Adnoddau Dynol

Gweithdrefn Achwyniadau

Cyn-Staff IGER - Côd Staff

Amgylchiadau Eithriadol

Premiymau Recriwtio a Chadw

Gweithdrefnau Dyrchafu

Recriwtio a dewis (ADN)

Dogfennau sydd eu hangen ar gyfer hysbysebu

Diswyddo ac Adleoli

Dadansoddi Swyddogaeth

Datblygu Staff/ GDSYA

Chwythu'r Chwiban

Protocol

Cydnabyddiaeth Undebau Llafur (CYF)

 Trefn Gallu

Polisi Diogelu Pobl Agored i Newid

Polisi Ymddeoliad Hyblyg