Camau Gweithredu Brys

Hyfforddiant E-Ddysgu Ymwybyddiaeth o Gamau yn Erbyn Terfysgaeth (ACT)

Gofynnir i gyd-weithwyr ymgyfarwyddo â’r wybodaeth a ddarperir yn y Deunydd Hyfforddi E-Ddysgu Ymwybyddiaeth o Gamau yn Erbyn Terfysgaeth / Action Counters Terrorism (ACT). Bydd yr adnodd hwn yn darparu gwybodaeth a chanllawiau cyffredinol fydd yn galluogi defnyddwyr i ymateb i’r sefyllfaoedd canlynol:

  1. Cyflwyniad i Derfysgaeth
  2. Adnabod Diogelwch Bregus
  3. Sut i Adnabod ac Ymateb i Ymddygiad Amheus
  4. Sut i Adnabod ac Ymdrin ag Eitem Amheus
  5. Beth i’w wneud os oes Bygythiad o Fom
  6. Sut i Ymateb i ymosodiad Arfau Tanio neu Arfau
  7. Crynodeb a Deunyddiau Ategol

Gellir cael hyd i’r deunydd hwn ar: https://ct.highfieldelearning.com/org/AberystwythUniversity, ac ni ddylai gymryd mwy na 45 munud i’w gwblhau.