DSEAR

Mae DSEAR yn cyfeirio at Reoliadau Sylweddau Peryglus ac Atmosfferau Ffrwydrol 2002 [Dangerous Substances and Explosive Atmospheres Regulations 2002].

Gall sylweddau peryglus beryglu diogelwch pobl drwy dân a ffrwydradau. Mae DSEAR yn ei gwneud hi’n ddyletswydd ar gyflogwyr a’r hunangyflogedig i ddiogelu pobl rhag perygl i’w diogelwch oherwydd tân, ffrwydradau a digwyddiadau tebyg yn y gweithle; mae hyn yn cynnwys aelodau’r cyhoedd a all gael eu rhoi mewn perygl oherwydd gwaith.

Diffiniadau

"Sylwedd Peryglus":

  1. Sylwedd neu baratoad sy’n cyfateb i’r meini prawf yn y canllawiau dosbarthu a labelu cymeradwy fel sylwedd neu baratoad sy’n ffrwydrol, yn ocsideiddiol, yn eithriadol fflamadwy, yn hynod fflamadwy neu fflamadwy, os yw’r sylwedd neu’r paratoad hwnnw wedi’i ddosbarthu ai peidio o dan Reoliadau CHIP/CLP;
  2. Sylwedd neu baratoad sydd, oherwydd ei briodweddau ffisegol-cemegol neu gemegol, y ffordd y caiff ei ddefnyddio, neu ei bresenoldeb yn y gweithle, yn creu risg, ond nad yw’n sylwedd neu’n baratoad yn ôl is-baragraff (1) uchod;
  3. Neu lwch o unrhyw fath, boed ar ffurf gronynnau solet neu ddeunyddiau ffeibrog neu fel arall, a all gyfuno ag aer neu atmosffer ffrwydrol a ffurfio cymysgedd ffrwydrol, ond nad yw’n sylwedd neu’n baratoad yn ôl is-baragraffau (a) neu (b) uchod.

Mae’n cynnwys unrhyw sylwedd neu baratoad a allai, oherwydd ei briodweddau neu’r ffordd y’i defnyddir, achosi niwed i bobl oherwydd tanau a ffrwydradau. Mae sylweddau peryglus yn cynnwys sylweddau all ryddhau ynni tebyg i dân a ffrwydradau megis adweithiau ecsothermig. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys: petrol; nwy petrolewn hylifiedig (LPG); paentiau; farneisiau; toddyddion; a llwch a allai, o’i gymysgu ag aer, achosi atmosffer ffrwydrol (e.e. llwch oherwydd melino a sandio).

"Atmosffer Ffrwydrol"

Mae’n golygu cymysgedd, dan amodau atmosfferig, o aer ac un neu ragor o sylweddau peryglus ar ffurf nwyon, anweddau, tarthau, neu lwch sydd, ar ôl tanio, yn peri i ymlosgiad ledaenu i’r holl gymysgedd sydd heb ei losgi.

Dogfennau

Mae’r dogfennau canlynol sy’n trafod DSEAR ar gael yn y Llyfrgell Ddogfennau:

  • F008 DSEAR Risk Assessment

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r dogfennau hyn, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd - hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Beth sy’n ofynnol gan DSEAR?

Rhaid i adrannau:

  • ganfod pa sylweddau peryglus sydd yn eu gweithle a beth yw’r perygl o dân a ffrwydradau;
  • rhoi mesurau rheoli ar waith naill ai i ddileu’r risgiau neu, lle nad yw hynny’n bosibl, eu rheoli;
  • rhoi mesurau rheoli ar waith i leihau effeithiau unrhyw ddigwyddiadau sy’n cynnwys sylweddau peryglus;
  • paratoi cynlluniau a gweithdrefnau i ymdrin â damweiniau, digwyddiadau ac argyfyngau sy’n cynnwys sylweddau peryglus;
  • sicrhau bod gan staff (a myfyrwyr lle bo’n briodol) yr wybodaeth gywir a’u bod wedi’u  hyfforddi i reoli neu ymdrin â risgiau oherwydd sylweddau peryglus;
  • adnabod a dosbarthu ardaloedd yn y gweithle lle gall atmosffer ffrwydrol gael ei greu ac osgoi ffynonellau tanio (trwy offer sydd heb ei ddiogelu, er enghraifft) yn yr ardaloedd hyn.

Rhaid i bob cam gweithredu, yn cynnwys asesiadau risg DSEAR, gydymffurfio â DSEAR Approved Code of Practice and Guidance (ACOP 2nd Edition 2013).

Enghreifftiau o DSEAR

Mae’r enghreifftiau o weithgareddau sy’n berthnasol i DSEAR yn cynnwys:

  • storio petrol yn danwydd i geir, cychod neu beiriannau gardd;
  • defnyddio nwyon fflamadwy, megis asetylen, ar gyfer weldio;
  • trafod a storio llwch gwastraff mewn nifer o ddiwydiannau gweithgynhyrchu;
  • trafod a storio gwastraff fflamadwy, megis olewon tanwydd;
  • weldio neu ‘waith poeth’ arall ar danceri a drymiau sydd wedi cynnwys deunydd fflamadwy;
  • gwaith a allai ryddhau sylweddau fflamadwy sy’n digwydd yn naturiol, megis methan mewn pylloedd glo neu safleoedd tirlenwi;
  • defnyddio toddyddion fflamadwy mewn labordai;
  • storio ac arddangos nwyddau fflamadwy, megis paent, mewn siopau;
  • llenwi, storio a thrafod erosolau â thanwyddau fflamadwy megis LPG;
  • cludo sylweddau fflamadwy mewn cynhwyswyr o amgylch gweithle;
  • cyflenwadau, megis petrol a swmpbowdrau, sy’n cyrraedd mewn tanceri ffordd;
  • gweithgynhyrchu, prosesu a chadw cemegion mewn warws;
  • y diwydiant petrocemegol, ar y tir ac ar y môr;
  • trafod, storio a defnyddio nwyon dan bwysau;
  • trafod, storio a defnyddio sylweddau sy’n cyrydu metalau.

Mesurau Rheoli Posibl

Os na ellir dileu’r risg, mae DSEAR yn mynnu bod mesurau rheolau yn cael eu rhoi ar waith, gan ddilyn y drefn flaenoriaethu isod:

  • torri nifer y sylweddau peryglus i leiafswm;
  • osgoi neu leihau rhyddhau sylweddau peryglus;
  • rheoli rhyddhau sylweddau peryglus yn y tarddiad;
  • atal ffurfio atmosffer peryglus;
  • casglu, rheoli a dileu unrhyw beth sy’n cael ei ryddhau i fan diogel (er enghraifft, drwy awyru);
  • osgoi ffynonellau tanio;
  • osgoi sefyllfaoedd niweidiol (er enghraifft, mynd dros ben terfynau gosodiadau rheoli neu dymheredd) a allai arwain at berygl;
  • cadw sylweddau anghymarus ar wahân.