Bwyd a Diod

Wrth baratoi bwyd neu ddiodydd i’w bwyta/yfed gan eraill rhaid cydymffurfio â’r deddfau hylendid bwyd perthnasol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried hyfforddiant a’r trefniadau o ran paratoi, trin a thrafod a storio bwyd.

Cyfyngiadau

Ni ddylid bwyta bwyd nac yfed diod yn yr ystafelloedd dysgu, mewn gweithfannau cyhoeddus (ar wahân i’r caffis cyfrifiadurol penodedig), mewn labordai, gweithdai, ar y grisiau nac ardaloedd eraill lle y gall beri risg i’r defnyddiwr, i eraill yn y cyffiniau (e.g. perygl llithro os cânt eu sarnu) neu lle gallai ddifrodi offer.

Paratoi Bwyd

Yn gyffredinol, wrth baratoi bwyd i’w fwyta gan eraill yn rhan o weithgareddau’r Brifysgol rhaid cydymffurfio â deddfau hylendid bwyd. Rhaid i’r rheiny sy’n paratoi bwyd gael ardystiad hylendid bwyd priodol a dilyn y technegau hylendid priodol, megis system ‘Hazard Analysis Critical Control Point’.

Mae enghreifftiau o weithgareddau Prifysgol perthnasol yn cynnwys: Dyddiau Agored; Digwyddiadau Chwaraeon; Lluniaeth yng nghyfarfodydd cymdeithasau; Gwaith Maes; Cyfarfodydd Adrannol; Cynadleddau; Bwyd a diod mewn mannau gwerthu megis caffis.

Cwestiynau a Holir yn Aml

Hoffwn werthu cacennau i godi arian i elusen. A yw’n iawn i mi wneud hyn?

Gallwch wneud cacennau i’w gwerthu i godi arian i elusen cyhyd a bod y sawl sy’n eu paratoi yn dilyn cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Serch hynny, dylech sicrhau eich bod yn osgoi defnyddio grwpiau bwyd peryglus megis wyau amrwd, a dylid osgoi cacennau hufen/cacennau caws os nad oes gennych unman i gadw’r cacennau’n oer tra eich bod yn eu gwerthu.

Dylech hefyd greu arwydd yn nodi “Gallai’r eitemau hyn gynnwys wyau a chnau” i’w arddangos yn glir ar y bwrdd

Rhan o ganllawiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd:

Dylai cacennau cartref fod yn ddiogel i’w bwyta, cyhyd a bod y bobl sy’n eu gwneud yn dilyn cyngor hylendid bwyd da a bod y cacennau’n cael eu storio a’u cludo’n ddiogel.

Os ydych chi’n gwneud cacennau yn y cartref:

  • Golchwch eich dwylo bob amser cyn paratoi bwyd.
  • Gwnewch yn siŵr fod arwynebau, powlenni ac unrhyw offer arall yn lân.
  • Peidiwch â defnyddio wyau amrwd mewn unrhyw beth na chaiff ei goginio'n drylwyr, megis eisin neu mousse.
  • Cadwch gacennau caws ac unrhyw gacennau neu bwdinau sy'n cynnwys hufen neu eisin menyn yn yr oergell.
  • Storiwch gacennau mewn cynhwysydd glân, wedi'i selio, i ffwrdd o fwydydd amrwd, yn enwedig cig amrwd.

Ar y diwrnod, pan fyddwch chi'n dod â chacennau o'r cartref neu'n rhedeg y stondin, cofiwch:

  • Gludo’r cacennau mewn cynhwysydd glân, wedi’i selio.
  • Defnyddio gefeiliau (tongs) neu sleisydd cacen wrth drin y gacen.

Hoffwn gynnal barbeciw i staff, teuluoedd a myfyrwyr mewn digwyddiad cymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol. Beth sydd angen i mi ei wneud?

Gan y byddwch yn coginio ac yn cyflenwi bwyd bydd angen i chi ddilyn y rheoliadau hylendid bwyd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y bwyd yn cael ei gadw dan amodau sy’n bodloni’r ‘Hazard Analysis of Critical Control Points’ (HACCP).

Bydd angen i chi gynnal Asesiad Risg sy’n cynnwys hylendid bwyd, rhagofalon tân, ac unrhyw beryglon sylweddol eraill a allai fod yn gysylltiedig â’ch digwyddiad. Bydd angen cofnodi mesurau rheoli addas a’u rhoi ar waith, gan gynnwys trefniadau mewn argyfwng.

Bydd angen i leoliad y barbeciw gael ei gymeradwyo gan Wasanaethau’r Campws (neu’r Ganolfan Chwaraeon os yw’r lleoliad ar dir y ganolfan).

Os yw hyn i gyd yn swnio fel gormod o drafferth, gallwch bob amser gysylltu â’r Swyddfa Gynadleddau ac mae’n bosib y bydd modd iddyn nhw drefnu’r arlwyo ar eich rhan a sicrhau bod eich bwyd yn ddiogel i'w fwyta. Fel arall, os ydych yn un o gymdeithasau myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr, bydd modd iddyn nhw eich cynghori.

Gwybodaeth Bellach

Gall gwenwyn bwyd fod yn hynod beryglus. Gweler yr eitemau newyddion canlynol am heintiadau E.coli a achoswyd trwy storio a choginio bwyd yn y ffordd anghywir: