Cofnodi ac Ymchwilio i Ddigwyddiadau

Disgwylir i aelodau staff a myfyrwyr roi gwybod ar unwaith am ddigwyddiadau, damweiniau a osgowyd o drwch blewyn, neu achosion o salwch galwedigaethol. Dylid gwneud hyn trwy lenwi ffurflen cofnodi digwyddiadau.

Hysbysiad Diogelu Data

Hysbysiad Diogelu Data Mae'r Tîm Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd yn ymroddedig i ddiogelu data personol trwy gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data ac arfer gorau. Am fanylion ynghylch sut yr ydym yn rheoli eich data personol, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/gwybodaeth-am-ddiogelu-data/

Diffiniadau

Digwyddiad - unrhyw ddigwyddiad annisgwyl neu nas cynlluniwyd sydd wedi, neu a allai fod wedi achosi marwolaeth, anaf, afiechyd neu ddifrod i asedau (colled), yr amgylchedd neu i drydydd parti.

Damwain a osgowyd o drwch blewyn – unrhyw ddigwyddiad a allai, o dan amgylchiadau ychydig yn wahanol, fod wedi arwain at anaf neu afiechyd, neu at ddifrodi neu golli eiddo, peiriannau, deunyddiau neu’r amgylchedd.

Mae’r enghreifftiau yn cynnwys digwyddiadau sy’n cynnwys: anaf damweiniol; tân; trydan; nwy; Digwyddiadau Peryglus (megis ffrwydradau, adeiladau neu sgaffaldau yn cwympo ac ati.) neu ddigwyddiadau amgylcheddol (megis llygru cyrsiau dŵr). Mae salwch galwedigaethol yn cynnwys unrhyw salwch cysylltiedig â gwaith a achosir i staff a myfyrwyr, ac i eraill os caiff ei achosi gan weithgareddau'r Brifysgol.

Dogfennau

Mae’r dogfennau canlynol yn ymwneud â chofnodi ac ymchwilio i ddigwyddiadau, ac maent i’w cael yn y Llyfrgell Ddogfennau:

  • P001 Gweithdrefn Cofnodi ac Ymchwilio i Ddigwyddiadau ac Achosion o Salwch Galwedigaethol
  • G012 Canllaw ar gyfer Ymchwilio i Ddigwyddiadau
  • F007 Ffurflen Cofnodi Digwyddiadau

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r dogfennau hyn, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

RIDDOR

Bydd yr holl adroddiadau sydd i’w cyflwyno yn unol â Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013 yn cael eu cyflwyno gan y Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd. Dylai staff fod yn ymwybodol o’r math o ddigwyddiadau y mae’n rhaid rhoi gwybod amdanynt i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a dylent roi gwybod i’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd am ddigwyddiadau o’r fath ar unwaith. Mae’r rhain yn cynnwys, ymhlith eraill:

  • Marwolaeth unrhyw unigolyn;
  • Anafiadau penodol i weithwyr, megis torri asgwrn, llosgiadau difrifol, trychiadau, ac ati;
  • Achosion lle nad yw’r aelod o staff yn gallu gweithio am gyfnod o fwy na saith niwrnod;
  • Damweiniau nad ydynt yn angheuol sy’n cynnwys bobl nad ydynt yn weithwyr (e.e. aelodau o’r cyhoedd) sy’n arwain at anaf a chael eu cludo i’r ysbyty ar unwaith i gael triniaeth.

Am fwy o wybodaeth, gweler: http://www.hse.gov.uk/riddor/