Codi a Chario

Mae codi a chario yn ymwneud â symud eitemau naill ai trwy eu codi, eu gosod i lawr, eu cario, eu gwthio neu eu tynnu. Gall technegau codi a chario gwael achosi anafiadau. Codi a chario yw’r achos mwyaf cyffredin o anafiadau sy’n arwain at golli mwy na saith diwrnod o waith.

Y Peryglon

Wrth drafod gwrthrychau trwm neu anhylaw mae perygl anafu eich hun, yn enwedig gwneud drwg i’ch cefn. Mae pwysau’r eitem yn ffactor pwysig, ond gall llu o ffactorau eraill greu risg o anaf, er enghraifft sawl gwaith y mae’n rhaid i chi godi neu gario eitem, pa mor bell rydych yn ei gario, ble rydych yn ei godi neu yn ei osod i lawr (ei godi o’r llawr, ei osod ar silff sy’n uwch na lefel eich ysgwyddau) ac unrhyw droi, plygu, ymestyn neu osgo lletchwith arall a wnewch wrth gyflawni tasg. Defnyddiwch gymhorthion codi mecanyddol lle bo’n bosib, neu gofynnwch am gymorth gan rywun arall.

Bydd yr asesiadau risg adrannol ar gyfer gweithgareddau sy’n gofyn am godi a chario yn nodi’r peryglon ac yn cloriannu pa mor briodol yw’r mesurau rheoli sydd ar waith. Dylech godi unrhyw bryderon yn ymwneud â chodi a chario gyda’ch Rheolwr Llinell ar unwaith.

Hyfforddiant

Mae’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn darparu cwrs hyfforddiant Codi a Chario 2 awr sy’n gyfle i chi gael dealltwriaeth am y risgiau ynghlwm wrth godi a chario, datblygu asesiadau risg, a sicrhau bod mesurau rheoli priodol ar waith.

Bydd mynychwyr yn nodi’r peryglon ynghlwm wrth godi a chario, yn deall y mathau o anafiadau all gael eu hachosi gan arferion codi a chario gwael, ac yn ymarfer y ffyrdd gorau o godi/cario llwythau i sicrhau amgylchedd gwaith diogel.

Technegau Trafod Da

Dylech ystyried y technegau canlynol wrth ymgymryd ag unrhyw weithgareddau codi a chario:

  • sefwch yn rhesymol agos i’r llwyth, gyda’ch traed ar wahân ac un droed ychydig o flaen y llall yn pwyntio i’r cyfeiriad yr ydych yn mynd
  • plygwch eich pengliniau a chadw eich cefn yn syth
  • sicrhewch fod gennych afael gadarn ar y llwyth
  • anadlwch i mewn cyn codi’r llwyth gan y bydd hyn yn helpu i gynnal eich asgwrn cefn
  • cadwch y llwyth yn agos at eich corff
  • peidiwch â chario llwyth sy’n eich rhwystro rhag gweld
  • codwch yn araf ac yn llyfn
  • osgowch symudiadau cyflym, herciog
  • peidiwch â throi eich corff wrth godi neu gario llwyth
  • wrth godi i uchder o’r llawr, gwnewch hynny mewn dau gam
  • pan fo dau neu fwy o bobl yn codi llwyth, dylai un reoli a chydlynu’r codi.

Adnoddau Ar-Lein

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi datblygu adnoddau i helpu cyflogwyr i ddadansoddi codi, cario a thrin a thrafod fel tîm, (adnoddau ‘MAC’ a ‘V-MAC’), tasgau ailadroddus sy’n effeithio ar aelodau uchaf y corff (adnodd ‘ART’) a gwthio a thynnu (adnodd ‘RAPP’). Gan ddibynnu ar y dasg, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddefnyddio mwy nag un adnodd, er enghraifft efallai bod angen i chi godi blwch o eitemau (codi), ei gario i weithfan (cario), ac yna dosbarthu’r cynnwys i leoliadau eraill megis blychau post neu gwpwrdd ffeilio (symudiadau ailadroddus).