Mamau Newydd neu Feichiog

Yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, ystyrir mam newydd neu feichiog yn unigolyn sydd naill ai’n feichiog, sydd wedi rhoi genedigaeth o fewn y chwe mis diwethaf, neu sy’n bwydo o’r fron.

Cyddestun Cyfreithiol

Mae’r ddeddfwriaeth benodol sy’n ymwneud â threfniadau ar gyfer mamau newydd neu feichiog yn cynnwys Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999, Rheoliadau’r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992, a Deddf Cydraddoldeb 2010.

Yn ogystal â gofyniad rheoli Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999, sy’n disgwyl i bob cyflogwr gynnal asesiad risg “addas a digonol”, mae’r rheoliadau hefyd yn gosod disgwyliadau penodol ar gyflogwyr ar gyfer mamau newydd neu feichiog. Wrth i’r risgiau a nodir mewn asesiadau risg sydd eisoes yn bodoli gynyddu ar gyfer mamau newydd neu feichiog, rhaid cwblhau asesiad risg penodol ar gyfer yr unigolyn.

Hysbysiad Diogelu Data

Mae'r Tîm Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd yn ymroddedig i ddiogelu data personol trwy gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data ac arfer gorau. Am fanylion ynghylch sut yr ydym yn rheoli eich data personol, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/gwybodaeth-am-ddiogelu-data/

Dogfennau

Mae’r dogfennau isod ar gyfer Mamau Newydd neu Feichiog ar gael yn y Llyfrgell Ddogfennau:

  • G001 Canllawiau i Famau Newydd neu Feichiog
  • F002 Rhestr Wirio Asesu Risg i Famau Newydd neu Feichiog

I gael rhagor o wybodaeth am y dogfennau hyn, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd drwy hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Peryglon Cyffredin

Mae risgiau i famau newydd neu feichiog yn aml yn cael eu dosbarthu yn ôl y pedwar maes risg sylfaenol:

  1. Risgiau Corfforol;
  2. Cyfryngau Biolegol;
  3. Cyfryngau Cemegol;
  4. Amodau Gwaith.

Efallai na fydd mamau newydd neu feichiog yn gallu dod i gysylltiad â rhai peryglon neu risgiau â gweithiau eraill, a fydd hefyd yn amrywio yn amodol ar iechyd yr unigolyn a gwahanol gyfnodau’r beichiogrwydd. Gall rhai o’r risgiau cyffredin i famau newydd neu feichiog gynnwys, ond heb gael eu cyfyngu i’r isod:

  • Codi/cludo llwyth trwm;
  • Sefyll neu eistedd yn llonydd am gyfnodau hir;
  • Dod i gysylltiad â chlefydau heintus;
  • Dod i gysylltiad â phlwm;
  • Dod i gysylltiad â chemegion gwenwynig;
  • Straen sy’n ymwneud â’r gwaith;
  • Mannau gwaith ac ystum y corff;
  • Dod i gysylltiad â deunydd ymbelydrol;
  • Bygythiad o drais yn y gweithle;
  • Oriau gwaith hir;
  • Mannau gwaith eithriadol swnllyd.

Asesu Risg

Bydd cwblhau ffurflen rhestr wirio asesu risg i famau newydd neu feichiog yn gymorth i gofnodi’r holl risgiau a pheryglon sy’n gysylltiedig â gwaith neu weithgareddau cwrs yr unigolyn. Bydd yn caniatáu trafodaeth ar fesurau rheoli priodol a ddylai leihau’r risg i lefel mor isel ag sy’n ymarferol resymol er mwyn diogelu’r fam a’r plentyn yn y groth neu’r plentyn newydd-anedig. Dylid adolygu asesiad risg mamau newydd neu feichiog yn rheolaidd, bob tri mis yn ddelfrydol, ac wrth ddychwelyd i’r gwaith/astudiaethau ar ôl y cyfnod mamolaeth. Hefyd, os ceir newidiadau i’r swydd neu i weithgareddau’r cwrs, dylid adolygu’r asesiad risg er mwyn ystyried risg ychwanegol neu leihad i’r risg. 

Noder: Oni ellir rheoli’r risgiau’n briodol neu eu lleihau i lefel dderbyniol, bydd yn rhaid tynnu’r unigolyn o’r perygl neu newid y trefniadau gwaith er mwyn sicrhau diogelwch y fam newydd neu feichiog a’r plentyn yn y groth neu’r plentyn newydd-anedig.

Hyfforddiant

Mae’r Adran Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd yn cynnal cwrs hyfforddiant 2 awr ynglŷn ag asesu risg fydd yn cyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol i gynrychiolwyr ar gyfer cynnal asesiad risg digonol, gweithredu mesurau rheoli priodol a monitro ac adolygu canfyddiadau’r asesiad. Mae’r cwrs yn egluro pob un o’r camau wrth gynnal asesiad risg digonol ac yn darparu templed asesiad risg gwag i’w ddefnyddio yn y gweithle ac enghreifftiau o gyfeiriadau ar dudalennau gwe y Brifysgol.

  • Cwrs Hyfforddiant Asesu Risg
  • Cyrsiau i ddod
  • Cofrestru Diddordeb