Ynglŷn ag IBERS
Mae’r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ganolfan ymchwil ac addysgu o safon byd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi ennill gwobrau ac yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am fod yn ganolfan ragoriaeth ac yn ddewis amlwg i fyfyrwyr sydd am astudio’r gwyddorau biolegol, amgylcheddol a gwledig.
Menter newydd yw IBERS sydd wedi tynnu at ei gilydd staff o Sefydliadau’r Gwyddorau Gwledig a’r Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas ac Amgylchedd (IGER). Mae tua 300 o staff addysgu, ymchwil a chefnogi’n cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol ym maes bioleg, o lefel genynnau a moleciwlau eraill i astudio effaith newid hinsawdd a bio-ynni ar amaethyddiaeth gynaliadwy a defnydd tir. Maen nhw hefyd yn cynnig ymchwil a hyfforddiant sgiliau ar lefel uchel. Mae cydweithio ffurfiol yn digwydd gyda Choleg y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor.
Trwy gysylltu prosesau a chanlyniadau ein hymchwiliadau gwyddonol gyda gwaith gwyddonwyr cymdeithasol yn Aberystwyth a Bangor, rydym yn gallu cyfrannu at greu polisi ar gyfer economi a chymunedau cefn gwlad.
Sut i ddod o hyd i ni
Dyma ein prif gefnogwyr ariannol: