Datganiad Cenhadaeth IBERS

Ein gweledigaeth yw bod yn un o’r tair Prifysgol amlycaf yn y byd yng ngwyddorau’r tir.

Elfen sylweddol yn y weledigaeth hon yw gwneud gwaith ymchwil biolegol sylfaenol a chymhwysol er mwyn mynd i’r afael â rhai o sialensiau mwyaf dwys dynol ryw. Mae’r rhain yn cynnwys afiechydon dynol a milfeddygol, cynhyrchu  bwyd a bio-ynni yn nannedd newid hinsawdd, cynnydd mewn poblogaeth, prinder dŵr a chystadleuaeth am ddefnydd tir.
Bydd IBERS yn harneisio a datblygu arbenigedd wyddonol unigryw ac ar draws sawl disgyblaeth o fewn y sefydliad newydd, gan sefydlu prosiectau cydweithredol gydag adrannau academaidd eraill yn y Brifysgol, i gynnig atebion holistaidd i sialensiau mawr y byd:

  • Byw gyda newid hinsawdd
  • Ynni adnewyddadwy
  • Sicrwydd bwyd a diod ar draws y byd
  • Afiechydon anifeiliaid a phlanhigion.

Nodwedd arbennig IBERS yw’r gallu i gofleidio ymchwil ddarganfyddiadol ac i’w chymhwyso i ddatrys anghenion dirfawr y blaned. O ganlyniad, mae IBERS mewn sefyllfa dda i wneud cyfraniad arwyddocaol i anghenion cyfnewidiol cymdeithas, yn genedlaethol a rhyngwladol.
Byddwn felly’n sicrhau bod gwyddonwyr, sy’n gweithio ar eu pen eu hunain, neu mewn tîmau rhwng ac ar draws disgyblaethau, yn cael eu galluogi i wthio datblygiadau sylfaenol yn eu blaenau a fydd yn cael effaith economaidd a chymdeithasol ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.