Cyflwyniad a Chroeso gan y Cyfarwyddwr

Yr Athro Wayne Powell Mae hwn yn amser gwych i fod yn fiolegydd. Mae natur sylfaenol y bio-wyddorau wedi cael ei newid gan gamau rhyfeddol ymlaen yn ein dealltwriaeth o sut y mae systemau byw’n gweithio ac yn rhyngweithio â’r amgylchedd ar lefel celloedd, moleciwlau a phoblogaethau. Ochr yn ochr â’r datblygiadau hyn, mae cymdeithas yn chwilio am atebion i’r sialensiau anferth sy’n wynebu ein planed: newid hinsawdd, sicrwydd bwyd, dŵr ac ynni, ynghyd â chynaliadwyedd amgylcheddol.
Bydd yr atebion i’r sialensiau hyn, ynghyd ag economi-gwybodaeth yr 21ain ganrif, yn dibynnu ar y bio-wyddorau a’u technolegau cefnogol. Mae IBERS mewn sefyllfa arbennig o dda i gydio yn y cyfleoedd newydd hyn trwy gysylltu ymchwil sy’n darganfod pethau newydd ac ymchwil y mae modd ei throi’n atebion ymarferol a hynny er mwyn sicrhau effaith economaidd a chymdeithasol. Mae prifysgolion modern yr 21ain ganrif yn cydnabod pwysigrwydd amrywiaeth mewn cenhadaeth a bydd IBERS, ac yntau’n rhan hanfodol o Brifysgol Aberystwyth, yn cofleidio’r angen am greadigrwydd ac ysgolheictod unigol gyda gwaith ymchwil strategol i ddatrys problemau a wynebu rhai o’r sialensiau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas.


Mae perfformiad o safon byd yn gofyn am bwyslais ar ragoriaeth, am ganolbwyntio ar ansawdd ac effaith, yn ogystal â ffordd o feddwl agored a rhyngwladol. Mae hefyd yn gofyn am lefelau sylweddol o fuddsoddi mewn staff a chyfleusterau er mwyn cael y casgliad o adnoddau sy’n ei osod ar wahân. Mae sefydlu IBERS yn cwrdd â’r sialens yma, gan greu sefydliad nodedig sy’n ‘ateb y diben’ ac yn gallu mynd i’r afael ag amrywiaeth o broblemau sydd y tu hwnt i allu’r rhan fwyaf o gyrff eraill.
Bydd ehangu gallu cenedlaethol Cymru ym maes ymchwil, a hynny ynghlwm wrth flaenoriaethau byd-eang a blaenoriaethau llywodraeth, hefyd yn creu amgylchedd ymenyddol ac entrepreneuraidd deinamig a fydd yn denu rhagor o wyddonwyr o safon byd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu talent cartref. Trwy gael arbenigwyr o safon byd wrth law, bydd israddedigion ac ôl-raddedigion yn cael eu hysbrydoli ac yn falch o’u cysylltiad gydag IBERS, Prifysgol Aberystwyth a Chymru.