O Wyddor i Weithredu

Cyfnewid gwybodaeth

Mae IBERS wedi ymrwymo i arloesi a throsglwyddo gwybodaeth i ddiwydiannau’r tir. Ein rhaglenni ymchwil, addysgu a dysgu a’n darpariaeth hyfforddi sydd wrth galon ein gweithgareddau estyn-allan.

Trosglwyddo gwybodaeth yw’r un cymhwysedd sy’n tynnu popeth at ei gilydd ac yn ganolog i’r gwaith o gynyddu cynaladwyedd diwydiannau’r tir.

Mae ymchwil yn IBERS yn cynhyrchu gwybodaeth newydd sy’n gyrru’r broses o arloesi; trwy addysg a hyfforddiant, bydd datblygiad arloesol yn arwain at atebion newydd er budd diwydiannau’r tir.
Mae IBERS yn gweithio’n agos gyda’i amrywiaeth o gyfranogwyr a defnyddwyr i sicrhau bod gwyddoniaeth IBERS yn cwrdd â’u hanghenion nhw, ac i hyrwyddo’r broses o drosglwyddo technoleg a chyfnewid gwybodaeth er mwyn elw economaidd a chymdeithasol.

Trwy gysylltu prosesau a chanlyniadau ein gwaith ymchwil gwyddonol gyda gwaith gwyddonwyr cymdeithasol yn Aberystwyth a Bangor, gallwn gyfrannu at ddatblygu polisi ynglŷn ag economi a chymunedau cefn gwlad.

Trwy gynnig hyfforddiant lefel-uchel i’r gymuned amaethyddol ac i’r diwydiannau amaethyddol, gallwn ddatblygu’r sylfaen sgiliau mewn cymunedau gwledig a gwella arferion amaethyddol.

Mae cysylltiadau gruf gan IBERS efo'r grŵpiau canlynol

  • AA International - Cyngor amaethyddiaeth a gwledig ac asesiadau y byd yn gyfan

Cysyniadau adnoddau

Land Life & Leisure - data-bas gwybodaeth gwledig