Croeso i Ffermydd IBERS Prifysgol Aberystwyth
Mae ffermydd Prifysgol Aberystwyth yn cwmpasu tua 1000 hectar ar draws nifer o safleoedd yn Aberystwyth a’r cyffiniau, ac fe’u rheolir gan IBERS ar ran y Brifysgol.
Mae Fferm Trawsgoed 15 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth, ac mae’n cynnwys buches odro fasnachol o 500 o wartheg, yn ogystal â lloi, ynghyd ag uned arbenigol sy’n ymchwilio i fetaboledd anifeiliaid cnoi cil. Adeiladau fferm Plas Gogerddan/Penglais/Frongoch ger prif gampws y Brifysgol yw’r prif leoliad ar gyfer cynhyrchu cig eidion a defaid, yr ail o’r rhain yn cynnwys defaid masnachol o’r iseldir a phreiddiau o dras y cofnodir eu perfformiad (bridiau Texel, Suffolk, Bluefaced Leicester a Beulah Speckled Faces) sy’n gwerthu hyrddod o rinwedd genetig uchel i gynhyrchwyr masnachol. Mae gweddill y tir yn ffermydd Frondeg a Morfa Mawr, sydd 5 a 14 milltir i’r de o Aberystwyth yn y drefn honno, yn cael ei ddefnyddio i ddarparu porthiant ar gyfer prif unedau’r fferm ac i ddarparu tir at ddibenion bridio planhigion. Yn ogystal â chynhyrchu masnachol mae yna hefyd adnoddau ymchwil arbenigol (e.e. uned ymchwil cig eidion, uned ymchwil cynnyrch llaeth, uned ymchwil bioeplesu, uned ymchwil metaboledd defaid, tai gwydr, ac ati) ar gyfer ymchwil i dda byw a chnydau a reolir ac a weithredir gan staff technegol IBERS.
Mae strategaeth gyffredinol Fferm y Brifysgol yn cynnwys:
- yr angen i fod yn gynaliadwy yn ariannol;
- dangos yr arferion gorau ym maes amaethyddiaeth fugeiliol i ddarparu sylfaen ar gyfer dysgu a throsglwyddo gwybodaeth i’r gymuned ffermio ehangach;
- darparu tir a da byw ar gost lawn fel sylfaen i ymchwil mewn amaethyddiaeth fugeiliol, bridio planhigion, bio-ynni ac ymchwil amgylcheddol ar gyfer IBERS ac Adrannau eraill y Brifysgol yn ôl y galw;
- cyflenwi cig eidion a chig oen o ansawdd i adain arlwyo Gwasanaethau Preswyl a Chroeso’r Brifysgol.
Mae’r anghenion hyn, sy’n cystadlu â’i gilydd ar brydiau, yn darparu heriau diddorol wrth reoli’r Ffermydd, ond maent hefyd yn gyfle i greu cysylltiadau uniongyrchol i roi ffrwyth ymchwil IBERS ar waith mewn prosesau cynhyrchu masnachol a chyfrannu, trwy hynny, i’n cenhadaeth i weld ‘gwyddoniaeth ar waith’ yn y gymuned.
Adnoddau
Un datblygiad newydd pwysig ar y Ffermydd fydd gosod parlwr godro troi 50-pwynt a chiwbiclau ychwanegol ar fferm Trawsgoed, i’w gomisiynu cyn hir. Mae hyn yn cynnwys offer i drochi a sterileiddio’r tethi yn awtomatig, cyfarpar adnabod gwartheg yn electronig wedi’i gysylltu â chronfa ddata gyfrifiadurol fel bod modd cofnodi faint o laeth a gynhyrchir bob tro yn awtomatig, mesuryddion camau i helpu i ganfod gwres, ac offer dadansoddi symudiad i ganfod a thrin cloffni cyn ei fod yn datblygu i fod yn broblem sylweddol o ran lles yr anifeiliaid. Bydd y parlwr hwn yn fwy effeithlon o lawer o ran llafur na’r parlwr presennol. Gyda’i gilydd, bydd y ffactorau hyn yn help mawr wrth reoli gyrroedd y Brifysgol.