Uned Ffotoddelweddu

Uned Ffotoddelweddu – Beth ydyn ni’n ei wneud?

Rydym yn darparu gwasanaeth ffotograffu a phrosesu delwedd cynhwysfawr ac arbenigol ar gyfer Y Sefydliad ym meysydd:
Ymchwil, Dysgu, Marchnata a Recriwtio, Hysbysebu a Chyhoeddusrwydd, Diweddaru gwefan IBERS ac hefyd Intranet IBERS.

Gweler isod argraff o waith rydym yn gwneud.

  • Cynhyrchu delweddau (micro a macro) safon uchel o gelloedd, cymunedau meicrobial, ffyngau, parasitiaid a samplau dyfriog i ymchwil, dysgu a phrosiectau trydydd flwyddyn.
  • Tynnu lluniau mewn stiwdio ac yn y maes gan ddefnyddio technegau arbenigol i bortreadu staff, samplau gwyddonol, planhigion yn cynnwys tomatos, glaswellt, meillion, ffyngau yn ogystal a lluniau o gyfarpar gwyddonol a samplau dyfriog.
  • Diweddaru a chynorthwyo i ddatblygu gwefan a mewnrwyd IBERS, gan sicrhau cynnal delwedd gorfforaethol a chynnwys dwyieithog.
  • Dylunio a chynhyrchu posteri wedi’u lamineiddio hyd at faint A0 ar gyfer cynadleddau, diwrnodau agored, ymweliadau UCAS ac at ddefnydd marchnata ehangach.
  • Dylunio a chynhyrchu cardiau busnes, penllythyron, taflenni, posteri, gwahoddiadau, hysbysebion, a llyfrynnau gan ddefnyddio meddalwedd cydnabyddiedig y diwydiant. Cysylltu á stiwdio ddylunio PA a chyflenwyr masnachol allanol i drefnu amcangyfrifon gwaith argraffu.
  • Tynnu lluniau ymwelwyr proffeil uchel á’r Sefydliad i ddefnydd marchnata a chyhoeddusrwydd.
  • Recordio fideo digidol, lawrlwytho, golygu a chynhyrchu DVD, cyflwyniadau aml-gyfrwng a darparu delweddau llonydd ar gyfer gwaith dadansoddi, a chyflwyniadau sleid.
  • Cynhyrchu cyflwyniadau PowerPoint ar gyfer aelodau staff addysgu, cynadleddau a cheisiadau  ariannu.
    Scanio ‘flatbed’ a 35mm gan addasu a newid maint delweddau i greu ffeiliau digidol sydd yn addas ar gyfer cyhoeddi, ac at ddefnydd addysgu ac ymchwil.
  • Gosod a sicrhau rhediad esmwyth offer clyweledol a dangos aelodau o staff sut i’w ddefnyddio.