Partneriaethau Rhyngwladol
Partneriaethau ar gyfer Datblygu Amaethyddol Rhyngwladol

Beth mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amaethyddol a Gwledig (IBERS) yn ei gynnig?
Mae IBERS yn ganolfan ryngwladol enwog ar gyfer gwella cnydau, ymchwil i’r rhyngweithio rhwng planhigion, anifeiliaid a microbau a datblygu planhigion i greu deunydd bioadnewyddadwy. Mae ganddi felly gyfraniadau unigryw i’w gwneud i ddatblygiad amaethyddol.

- Mae IBERS yn un o brif ganolfannau bridio planhigion y sector cyhoeddus yn Ewrop. Mae ei agwedd arloesol tuag at ddatblygu amrywiadau yn defnyddio sylfeini gwyddonol cadarn a’r adnoddau diweddaraf (gan gynnwys y don nesaf o ddulliau dilyniannu a ffenomeg) i gyflawni canlyniadau sydd o fudd i’r cyhoedd ac sy’n llwyddiannus yn fasnachol fel ei gilydd.
- Mae gan ein hymchwil mewn geneteg planhigion hanes hir o weithio law yn llaw â’n cryfderau cysylltiedig mewn gwyddor anifeiliaid, yn arbennig maeth anifeiliaid cnoi cil, ansawdd cig a llaeth a lleihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir drwy amaethyddiaeth da byw.
- Trydydd maes allweddol yw deunydd bioadnewyddadwy, gan gynnwys datblygu ffyrdd o ddefnyddio bio-ynni a bioburo a gwella’n dealltwriaeth o’r wyddoniaeth greiddiol.
Ategir y meysydd hyn gan arbenigedd mewn gwasanaethau ecosystem daearol a dyfrol, rheoli parasitiaid (Schistosomiasis a Fasciolosis) a modelu afiechydon a’r amgylchedd (Tuberculosis a Malaria). Yn y modd hwn gall IBERS gyfrannu tuag at ddull holistig o ganfod atebion i heriau allweddol diogelu cyflenwadau bwyd a newid hinsawdd.
Systemau Da Byw Cynaliadwy
Yn llawer o ardaloedd tlotaf y byd, amaethyddiaeth tyddynnod yw’r dull pennaf o gynhyrchu bwyd; mae’r dull hwn yn gymhleth, yn amrywiol ac mae’n tueddi i gynnwys elfen o risg. Mae’n hanfodol cyflwyno dulliau mwy dwys o ffermio i amaethyddiaeth tyddynnod i wneud cyflenwadau bwyd yn fwy diogel ac i roi gwell bywoliaeth i dyddynwyr.
Bridio Planhigion

Mae gennym ffocws cryf ar gnydau porthi (porfeydd a chodlysiau) ond hefyd rhaglen fawr o fridio grawnfwydydd, yn enwedig ceirch. Ein nod yw cynyddu cnwd ac ansawdd ond ar yr un pryd lleihau’r effaith amgylcheddol ac ymaddasu’n well i newid hinsawdd. Mae partneriaethau cyhoeddus-preifat yn sicrhau effaith ar y fferm.
Mae technegau bridio molecwlar wedi cael eu defnyddio i gynyddu gallu cnydau tymherus a throfannol i ddygymod â chyfnodau o sychder, a’u gwneud yn fwy effeithlon o ran defnyddio ddŵr. Bydd adnoddau dilyniannu genomau cyfan a ffenoteipio awtomataidd yn ychwanegu’n fawr at ein gallu i droi ymchwil arloesol yn effeithiau ymarferol drwy raglenni bridio.
- Bridio Planhigion Astudiaethau Achos
Systemau Anifeiliaid Cnoi Cil
Mae IBERS yn arwain y byd o ran gwella ein dealltwriaeth o’r rhyngweithiadau rhwng anifeiliaid fferm sy’n cnoi cil a’r microbau sy’n byw yn eu cyrff. Mae’r ddealltwriaeth hon yn galluogi ffermwyr i wella ansawdd a chynaliadwyedd prosesau cynhyrchu cig a llaeth. Yn benodol, mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar leihau effaith amgylcheddol amaethyddiaeth anifeiliaid i wella cynaliadwyedd, ac ar ganfod elfennau mewn cig a llaeth sy’n cyfrannu tuag at ddiet iachus ac sy’n gwella iechyd mewn pobl. Mae ein gwaith yn cwmpasu ymdriniaeth holistaidd o systemau da byw, gan gysylltu genomau planhigion, anifeiliaid a microbau i gynyddu cynhyrchiant, lleihau effeithiau amgylcheddol ac felly cynyddu iechyd a chyfoeth tyddynwyr mewn gwledydd isel eu hincwm.
Mae gwaith IBERS ar weiriau uchel eu siwgr yn enghraifft o wyddoniaeth y gellid ei haddasu i gyd-destun y gwledydd datblygol. Mae cyrff defaid a gwartheg yn defnyddio protein planhigion yn aneffeithlon. Arweiniodd darganfyddiadau gwyddonol am groniadau siwgr mewn rhygwellt a gweithgarwch microbau yn y rwmen at y ddamcaniaeth y byddai bridio gweiriau uchel eu siwgr i borthi anifeiliaid yn golygu bod mwy o nitrogen yn cael ei ddal yng nghorff yr anifail a thrwy hynny bod llai yn cael ei ysgarthu. Mae ein canlyniadau wedi dangos bod bwydo gweiriau uchel eu siwgr i anifeiliaid yn eu gwneud yn fwy cynhyrchiol yn ogystal â lleihau allyriadau methan. Mae’r wybodaeth hon am ryngweithiadau rhwng cnydau, microbau a da byw wedi arwain at ddatblygu amrywiadau masnachol sydd wedi cynyddu proffidioldeb ffermydd a lleihau llygredd yn y Deyrnas Unedig ac sy’n gwneud hynny hefyd yn fwyfwy mewn gwledydd eraill ar draws y byd.
Deunydd Bioadnewyddadwy

Mae gwaith rhyngwladol-enwog IBERS ar fio-ynni yn canolbwyntio ar ddatblygu cnydau difwyd ar gyfer cynhyrchu bio-ynni a bioburo lleol. I osgoi amharu ar brosesau cynhyrchu bwyd, rydym yn gweithio â chnydau sy’n medru tyfu ar diroedd ymylol neu wedi’u llygru sy’n methu cynnal cnydau bwyd. Mae cnydau o’r math yn addawol iawn nid yn unig o ran diwallu anghenion tanwydd ac ynni lleol, ond hefyd mewn llawer o achosion i adfer ffrwythlondeb pridd a gwrthdroi’r broses ddiffeithdiro. Fel rhan o’r gwaith hwn mae gennym gasgliad mawr o blasmau cenhedlu a rhaglen fridio ar gyfer y gwair ynni Miscanthus. Yn ogystal rydym yn astudio sut y gellid defnyddio bio-ynni er mwyn rheoli tir i gynnal bioamrywiaeth a gwneud glaswelltir o ansawdd gwael a esgeulusir yn gynhyrchiol unwaith eto. Mae technegau arloesol i gynhyrchu math carbon-gyfoethog o olosg o wastraff naturiol, planhigion a phren yn cael eu profi ar hyn o bryd. Gall y ‘biolosg’ hwn wella ansawdd pridd, gan gynyddu ei allu i ddal carbon, dŵr a maetholion.
- 'Biochar' astudiaethau achos
Sicrhau Effaith

Mae effaith IBERS ar amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig yn hysbys. Byddwn yn parhau â’n hymrwymiad i greu effaith drwy weithio â phartneriaid cyfredol a newydd i sicrhau bod ein gwyddoniaeth wedi’i theilwra ar gyfer anghenion datblygu ac wedi’i chysylltu â rhwydweithiau effaith credadwy.
Mae ymchwil yn ddarn o’r pos gwella amaethyddiaeth. Mae datblygu cnydau newydd a systemau prosesu cysylltiedig yn gofyn am gydweithredu dwys ar draws disgyblaethau. Mae sicrhau bod technolegau newydd yn cael eu derbyn a’u defnyddio yr un mor heriol, ac mae’n hanfodol ceisio meithrin cysylltiadau â llunwyr polisi a budd-ddeiliaid ar hyd y gadwyn werthoedd gyfan.
Hyfforddiant

Mae rhaglenni MSc IBERS yn elwa o’i ymchwil ac mae cysylltiad cryf rhyngddynt â gwaith ei Raglen Datblygu Rhyngwladol:
PhD
Mae gennym raglen PhD weithredol a chynyddol sy’n cwmpasu ehangder ein hymchwil. Mae ffocws y rhaglen hon yn dod yn fwyfwy rhyngwladol.
Rydym yn bwriadu sefydlu cyrsiau hyfforddi a rhaglenni cymrodoriaethau tymor byr ar gyfer gwyddonwyr o wledydd isel eu hincwm, ac i alluogi staff IBERS i gyfranogi o raglenni o ddarlithoedd ymweliadol.