Gwobrau’r Times Higher Education

09 Medi 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer categori Cyfraniad Eithriadol i Arloesi a Thechnoleg Gwobrau Addysg Uwch y Times Higher Education 2013.

Mae Aberystwyth yn un o chwe phrifysgol i’w cynnwys ar y rhestr fer. Cyhoeddwyd y rhestrai byr cyflawn heddiw, dydd Iau 5 Medi, yn y Times Higher Education (THE), ac maent ar gael ar lein yma.

Mae cais Prifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar fridio a datblygu Glaswellt Siwgr Uchel (AberHSG) gan wyddonwyr yn IBERS – Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Bellach yn eu nawfed flwyddyn, mae Gwobrau Addysg Uwch y THE yn uchafbwynt yn y calendr academaidd ac yn ddathliad disglair o’r goreuon yn y sector.

Mae'r gwobrau yn gyfle unigryw ac uchel eu proffil i ddathlu rhagoriaeth a chyflawniadau anhygoel gan sefydliadau addysg uwch yn y Deyrnas Gyfunol, ac o ddau weithgaredd craidd addysg uwch: addysgu ac ymchwil.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor; "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau mawreddog yma, yn enwedig mewn maes sydd yn arddangos arbenigedd byd-enwog IBERS. Mae hyn yn amserol iawn, ac yn dilyn cyhoeddiad y Campws Arloesi a Lledaenu, lle bydd gwyddoniaeth, arloesi a thechnoleg yn cael cyfle heb ei ail i ddatblygu gyda’i gilydd."

Mae'r Brifysgol yn unigryw o fewn y sector Addysg Uwch yn y DG, yn meddu ar raglenni bridio planhigion masnachol llwyddiannus sy'n cynhyrchu mathau newydd sy'n cael eu marchnata yn y DG a thramor.

Dywedodd yr Athro Wayne Powell , Cyfarwyddwr IBERS; "Mae creu'r Glaswellt Siwgr Uchel ym Mhrifysgol Aberystwyth yn enghraifft o sut y gall arbenigedd ymchwil academaidd weithio'n effeithiol mewn partneriaeth â menter fasnachol i sicrhau effaith economaidd, cefnogi lleihau newid yn yr hinsawdd, a diwydiant amaethyddol arallgyfeiriol a allai gyfrannu'n sylweddol at les cymdeithasol ac economaidd gan adfywio cymunedau gwledig."

Mae gan Glaswellt Siwgr Uchel (AberHSG) y potensial i drawsnewid amaethyddiaeth da byw ar dir glas. Mae profion annibynnol wedi dangos y gall AberHSG gynyddu cynhyrchu cig a llaeth o hyd at 24% a lleihau allyriadau methan a llygryddion nitrogenaidd gan hyd at 20%.

Mae’r arwerthwyr ASDA a Sainsbury’s yn hyrwyddo'r defnydd o AberHSG ar eu ffermydd, ac yn amcangyfrif bod allyriadau blynyddol o garbon deuocsid 186,000 tunnell yn is, tra bod elw i fyny mwy na £10 miliwn y flwyddyn. Mae mathau o AberHSG yn cael eu marchnata drwy bartneriaeth gyhoeddus - breifat strategol gyda Germinal Holdings - cwmni hadau porthiant mwyaf Prydain Fawr ac Iwerddon.

Mae'r mathau o rygwellt lluosflwydd Aber HSG hefyd yn ffynhonnell o siwgr i'w droi'n fioethanol, gan roi cyfle i ddatblygu tanwydd cludiant hylif sydd yn deillio o gnydau a lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.

Cynhelir y cinio a’r seremoni wobrwyo ar ddydd Iau 28 Tachwedd yng Ngwesty'r Grosvenor House, Park Lane, Llundain. Mae'n argoeli i fod yn ddigwyddiad ysblennydd gyda disgwyl i fwy na 1000 o westeion i fynychu, gan gynnwys gweinidogion y llywodraeth a staff academaidd a phrifysgol ar bob lefel ar draws y sector.