Graddedigion sŵoleg IBERS yn dechrau ar yrfaoedd ymchwil

02 Chwefror 2016

Mae dwy o raddedigion sŵoleg 2014, sef Rachel Chance ac Emma Ackerley, yn adeiladu ar eu graddau IBERS ac wedi dechrau ar yrfaoedd ymchwil.

Darlith ‘Demo’ a Chlinig gan Lucinda Fredericks yng Nghanolfan Ceffylau Lluest

15 Chwefror 2016

Bydd y seren Olympaidd Lucinda Fredericks yn cyflwyno darlith ‘demo’ a chlinig a gynhelir gan Grŵp Marchogaeth Dyffryn Paith ar 19eg a 20fed o Chwefror, 2016 yng Nghanolfan Ceffylau Lluest Prifysgol Aberystwyth.

Modiwl Newydd Surveying Aquatic Environments

08 Chwefror 2016

Rydym wedi datblygu modiwl newydd sbon a fydd yn canolbwyntio ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn cadwraeth ddyfrol.

Myfyrwyr IBERS i gymryd rhan yn ‘University Challenge’ Botanegol cyntaf erioed

26 Chwefror 2016

Cynhelir y ‘University Challenge’ Botanegol yng Ngerddi Fotaneg Kew ym mis Mawrth. Trefnwyd y digwyddiad gan IBERS a Phrifysgol Reading.                                                 

Myfyrwyr Amaethyddiaeth ar Countryfile BBC One

29 Chwefror 2016

Bydd grŵp o fyfyrwyr sy'n astudio Amaethyddiaeth yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael eu cynnwys yn  rhaglen boblogaidd Countryfile BBC One ar Ddydd Sul 13 Mawrth am 7 o’r gloch yr hwyr.