Tair gradd ar y brig yn y DU am foddhad myfyrwyr

09 Awst 2017

Mae tri phwnc gradd israddedig sydd yn cael eu dysgu yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y brig yn y DU am foddhad cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2017 (ACF).

Mae Microbioleg, Bioleg Foleciwlaidd a Sŵoleg yn rhif un ar draws y DU am fodlonrwydd myfyrwyr cyffredinol yn yr arolwg dylanwadol o fyfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf gyhoeddwyd ar 9 Awst 2017.

Mae dau bwnc arall o IBERS hefyd yn ymddangos yn y pump uchaf - Geneteg (2il) a Gwyddor Anifeiliaid (4ydd).

Cafodd pedair rhaglen gradd israddedig farciau llawn, 100%, gan fyfyrwyr, a thri arall rhwng 94-96%.

Cwrs Gradd Israddedig

Adran

Bodlonrwydd Cyffredinol

Biocemeg C700

IBERS

100%

Geneteg & Biocemeg

IBERS

100%

Microbioleg

IBERS

100%

Sŵoleg

IBERS

100%

Bioleg Môr a Dŵr Croyw

IBERS

96%

Bioleg

IBERS

95%

Geneteg

IBERS

94%


Gofynnwyd hefyd i fyfyrwyr farnu’r rhaglenni ar draws cyfres o fesurau gan gynnwys safon yr addysgu, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefn a rheolaeth, adnoddau dysgu, cymuned ddysgu a llais myfyrwyr.

Dywedodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS: “"Rydym wrth ein boddau gyda pherfformiad cryf IBERS yn yr ACF, gan ei fod yn adlewyrchu ymrwymiad eang ein staff i brofiad dysgu ein myfyrwyr, yn ogystal â'r buddsoddiad a wnaethom yn ein cyrsiau. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys llongau ymchwil newydd ar gyfer ein gradd Bioleg Môr a Dŵr Croyw, a'r cwrs maes Sŵoleg i jyngloedd Periw. Gan edrych ymlaen, mae ein graddau newydd mewn Bioleg Ddynol ac Iechyd a Chadwraeth Bywyd Gwyllt, sydd yn dechrau ym mis Medi 2017 yn destun cyffro i ni. Er nad ydym am laesu dwylo, gyda buddsoddiadau diweddar mewn staff newydd, mae gennym bob rheswm i obeithio y bydd y flwyddyn i ddod yr un mor llwyddiannus â'r un aeth heibio.”

Mae’r canlyniadau yma yn rhan o stori lwyddiant ehangach ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n cael ei nodi fel y gorau yng Nghymru ac yn un o'r pum sefydliad addysg uwch uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr yn gyffredinol yn ôl ACF 2017.

Mae'r arolwg yn dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 91% - saith pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 84%.

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio yn IBERS a darganfod pam fod myfyrwyr Aberystwyth mor fodlon â'u cyrsiau, nid yw'n rhy hwyr. Mae gennym rai lleoedd clirio ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-18 neu dewch draw i ymweld â ni yn ystod un o'n Diwrnodau Agored.

Mae ffigurau'r ACF yn dilyn yn agos ar sodlau'r ffigyrau cyflogadwyedd diweddaraf ar gyfer prifysgolion y DU a ddangosodd fod 97% o raddedigion IBERS mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth.

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr bob blwyddyn gan IPSOS Mori ar ran cynghorau cyllido addysg uwch y DU a chyfwelir â mwy na 300,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gofynnir i fyfyrwyr pa mor fodlon ydynt gyda’u prifysgol ar draws ystod eang o fesurau, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefn a rheolaeth, adnoddau dysgu, y gymuned addysgu a llais myfyrwyr.

Mae safleoedd Prifysgol Aberystwyth yn seiliedig ar y cwestiwn boddhad cyffredinol ac yn defnyddio'r rhestr o sefydliadau addysg uwch sydd yn ymddangos yn The Times and Sunday Times Good University Guide 2018.