Cyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer Campws Arloesi a Menter £40.5m Aberystwyth

06 Ionawr 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth, ar y cyd â Champws Arloesi a Menter Aberystwyth (AIEC), wedi cyflwyno cais cynllunio llawn yn ffurfiol i Gyngor Sir Ceredigion.

Troi cewynnau tafladwy yn decstilau a biodanwydd

11 Ionawr 2017

Mae gwaredu gwastraff wedi'r Nadolig, sy'n cynnwys papur lapio a phecynnu, yn gur pen i lawer yr adeg hon o'r flwyddyn. Ond mae rheoli mathau penodol o wastraff gan gynnwys cewynnau tafladwy yn creu heriau amgylcheddol sylweddol. Yn awr gallai ateb fod ar y gweill yn dilyn datblygu proses ecogyfeillgar newydd gan Joe Fremantle, un o raddedigion bioleg Prifysgol Aberystwyth.

BRAVO - optimeiddio perfformiad cnydau bresych

12 Ionawr 2017

Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn bartner arweiniol mewn prosiect newydd pum mlynedd sy’n mynd i'r afael â'r colledion sy’n effeithio ar ddau o gnydau llysiau mwyaf gwerthfawr y DU yn economaidd.

Prawf wrin newydd yn medru datgelu’n gyflym a yw person yn bwyta’n iach

13 Ionawr 2017

Mae gwyddonwyr o Aberystwyth, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Newcastle wedi datlblygu prawf wrin sy'n mesur iechyd diet person ac yn rhoi syniad o faint o fraster, siwgr, ffibr a phrotein mae person wedi’i fwyta.

Microbau’n creu eu cilfach

23 Ionawr 2017

Ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda'r Awdurdod Datblygu Bwyd ac Amaethyddiaeth yn Iwerddon (Teagasc) i ddatblygu ffordd newydd o weld sut mae gwahanol fathau o ficrobau'n gallu goroesi wrth iddynt gystadlu am adnoddau yn yr un amgylchedd.