Diwrnod Chwilfrydedd Mewn Planhigion

17 May 2012

null

Diwrnod Chwilfrydedd Mewn Planhigion -  Dathlu syndod planhigion

Dydd Gwener 18fed Mai 2012

9.30 am – 6 pm

Diwrnod Agored Gerddi Botaneg , Penglais, Aberystwyth

Cynhelir y Diwrnod Chwilfrydedd Mewn Planhigion Rhyngwladol cyntaf ar Ddydd Gwener 18fed o Fai 2012 http://www.plantday12.eu/, gan anelu i ennyn brwdfrydedd ymysg pawb am blanhigion a phwysigrwydd gwyddoniaeth planhigion i amaethyddiaeth, coedwigaeth, garddwriaeth, bwyd, papur, pren, cemegau, ynni a deunydd fferyllol. Mare rôl planhigion mewn cadwraeth amgylcheddol yn neges bwysig hefyd.

Mae prif dy gwydr y Gerddi Botaneg ( gyferbyn â phrif fynediad campws Penglais) ar agor i’r cyhoedd drwy’r dydd http://users.aber.ac.uk/noe2/fpd/index.htm.Mae croeso i staff a myfyrwyr y Brifysgol hefyd. Mae parcio yn gyfyngedig iawn, felly ystyriwch defnyddio'r bws/beic/ neu gerdded os gwelwch yn dda. Caiff ymwelwyr grwydro drwy’r ty gwydr a thrafod enghreifftiau o waith ymchwil gwyddoniaeth planhigion gyda staff o IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

 

Gobeithiwn gyfathrebu fod planhigion yn allwedddol i’n tirlun amgylcheddol a chymdeithasol heddiw ac i’r dyfodol.



Nôl i'r brig