Arolwg Busnes Fferm

Mae canlyniadau ystadegol yr Arolwg Busnes Fferm yng Nghymru yn cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi’n flynyddol gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), dan gyfarwyddyd Mr Tony O'Regan ac ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r arolwg yn cynnwys data ariannol a ffisegol sampl gynrychioladol o 600 o ffermydd yng Nghymru a chyflwynir y canlyniadau fel cyfres o dablau, a sylwadau rhagarweiniol.
           
Dosberthir y ffermydd sy’n rhan o’r arolwg yn ôl eu math a’u maint a dangosir y canlyniadau yn ôl allbwn, mewnbwn ac incwm; defnydd o’r tir; cyfalaf tenantiaid; dangosyddion perfformiad, megis maint y busnes ar gyfartaledd a’r nifer safonol o ddynion sydd ar gael bob diwrnod; amrywiol fesurau incwm, gan gynnwys incwm fferm net; nifer y da byw; a dyledion ac asedau’r fferm yn ôl y math o ddeiliadaeth. Mae cymariaethau rhyng-flynyddol ar gyfer sampl o ddaliadau sydd union yr un fath ac sy’n rhan o’r Arolwg Busnes Fferm yn cael eu cynnwys yn ogystal; felly hefyd faint yr elw gros ar gyfer y prif fathau o fentrau.

Mae dau bwrpas i ganlyniadau’r arolwg a’r astudiaethau arbennig sy’n gysylltiedig. Yn gyntaf, maent yn darparu gwybodaeth ar amodau economaidd ffermydd o wahanol fathau a meintiau yng Nghymru i lunwyr polisi rhanbarthol, cenedlaethol a’r UE. Yn ail, maent yn darparu’r wybodaeth gymharol sy’n hanfodol ar gyfer asesu perfformiad unedau fferm unigol i ffermwyr, cynghorwyr ffermydd ac eraill.

Gael gafael ar wybodaeth o'r Arolwg Busnes Fferm

Mae copïau o ganlyniadau’r arolwg, ac o’r astudiaethau arbennig sy’n ymwneud ag agweddau benodol ar fusnesau fferm, yn cael eu cylchredeg yn eang.

Gwybodaeth o Arolwg Busnes Fferm ar gael ar y dolenni isod:

Cydnabyddiaethau

Mae’r canlyniadau a gyflwynir yma wedi’u seilio ar ddata ariannol a ffisegol 600 a mwy o ffermydd yng Nghymru. Dymuna’r Sefydliad gydnabod ymdrech gydweithredol nifer o bobl: y ffermwyr yng Nghymru a fu’n ddigon hael i gyflwyno gwybodaeth fanwl am eu busnesau i ni; y Swyddogion Archwiliadol a staff clerigol yr uned Arolwg Busnes Fferm dan gyfarwyddyd cyffredinol Mr Tony O'Regan; Dafydd Owen sy’n gyfrifol am ddadansoddi’r data a’r wefan; adran Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol; a Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r gwaith.