Ymchwil Uwchraddedig

Fel arfer mae rhaglenni MPhil yn ymestyn dros ddwy flynedd a rhaglenni PhD dros dair, ac fe'u seilir bron yn llwyr ar ymchwil wedi'i arolygu dan gyfarwyddyd un neu ragor o aelodau staff. Mae gennym drefn effeithiol ar gyfer monitro cynnydd ein holl uwchraddedigion ymchwil, a gall ymgeiswyr sy'n cofrestru'n wreiddiol am MPhil, ar sail eu cynnydd yn y flwyddyn gyntaf o astudiaeth wedi'i arolygu ac yn ôl doethineb y Sefydliad, uwchraddio i weithio am PhD. Gellir dewis testunau ar gyfer gradd ymchwil o blith unrhyw un o feysydd arbenigedd y Sefydliad.