Cynllun SLP

Yn IBERS cychwynwyd cynllun cyffrous newydd  sy’n anelu at gyfuno’r datblygiadau mewn magu defaid a’r  defnydd strategol o wahanol laswelltoedd.Wrth roi mamogiaid i bori ar dir llai ffafriol ac elwa ar fanteision yr amrywiadau diweddaraf o laswellt a meillion  i  besgi wyn,mae’r cynllun yn gweithio gyda ffermwyr masnachol ar draws Cymru ar y cyd â phartneriaid mewn diwydiant.

Gyda’r bwriad o leihau costau a chynyddu elw drwy ddefnyddio’r gwahanol ardaloedd o laswellt ar y fferm yn strategol yn ystod y flwyddyn ddefaid ,bydd y gwaith yn cynorthwyo’r ffermwyr i bwyso a mesur ac i ddatblygu systemau effeithiol ac amgylcheddol gyfeillgar o gynhyrchu  defaid sy’n cwrdd ag anghenion y farchnad.

Yn draddodiadol mae llawer o famogiaid yn cael eu gwacau cyn cael eu troi at yr hwrdd er mwyn cyrraedd y canran gorau posibl o wyn drwy gynyddu graddfa bwrw wyau a lleihau marwolaethau embryonig cynnar. Nid oes gan famogiaid sy’n cario’r  genyn Inverdale,mamogiaid  sydd newydd gael eu  cyflwyno i Gymru,yr un angen am gynnydd yn lefel y  maeth cyn eu troi at yr hwrdd / yn y cyfnod gofyn hwrdd.

Mae’r cynllun yn amcanu at ddarganfod mwy am y ffactorau genetig ac amgylcheddol sydd ynghlwm wrth systemau wedi eu selio ar  ddefaid sydd yn meddu’r genyn Inverdale.Amcanir casglu gwybodaeth am reolaeth y defaid yn ogystal  ac am  effeithlonrwydd  cynhyrchu porfa drwy edrych yn ofalus ar y costau a’r elw.

Bydd astudiaethau manwl yn ffermydd  y brifysgol yn IBERS yn cymharu dau fath o frid a systemau wyna a bydd yn cyfannu gwaith gyda phun ffermwr masnachol   ar draws Cymru gydag amrediadau gwahanol o systemau a bridiau.Drwy weithio gyda’r Ganolfan Ddatblygu Glaswellt a’r Arolwg  Busnes Ffermio,bydd y ffermwyr masnachol yn gweithio gyda’i gilydd ac yn  arolygu eu systemau defaid o’r cyfnod gofyn hwrdd  nes  eu lladd  a byddant yn gallu mesur y manteision o gynnwys y genyn Inverdale, hefyd mesur defnyddio ‘r technegau gweithredu gorau i reoli’r math o famogiaid ac hefyd  pesgi wyn ar borthiant o safon uchel a  dyfwyd gartref ar eu ffermydd.

Elfen allweddol yn y cynllun hwn yw uno’r ymchwil datblygol yn IBERS gyda’r hyn ymarferir ar y fferm fasnachol ac i sicrhau y bydd  pawb sy’n ymwneud ag e yn gallu llwyr gyfranogi  mewn datblygu systemau cynhyrchu wyn cynaliadwy i Gymru.

  

Cydnabyddiaeth

Rhan-ariannir y cynllun hwn drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013,a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a ‘r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd er Datblygu Gwledig.