Dr Cate Williams

Dr Cate Williams

Swyddog Datblygu Ymchwil

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Noder: Mae gwybodaeth ychwanegol neu manylach ar y fersiwn Saesneg o'r proffil hwn.

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Cate ag YBA fel Swyddog Datblygu Ymchwil ar gyfer y gwyddorau ar 1 Tachwedd 2023 a chyn hynny bu’n gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer TB mewn Gwartheg.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Yn flaenorol, roedd Cate yn Gydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol a oedd yn archwilio strwythur poblogaeth Mycobacterium bovis yng Nghymru gan ddefnyddio dilyniannu genom cyfan.

Addysg a phrofiad gwaith

Derbyniodd Cate ei BSc (Anrh) yn 2013, ac yna ei MPhil yn 2014 a’i PhD yn 2019. Cwblhaodd hefyd ei TUAAU yn 2020. Cyn hynny bu’n gweithio fel cymrawd cyfnewid gwybodaeth gyda Cyswllt Ffermio ac mae wedi darlithio ar fodiwlau sy’n ymwneud â da byw ar gyfer Dysgu o Bell IBERS.

Profiad a gwybodaeth

Mae Cate yn cynnig cefndir mewn microbioleg foleciwlaidd, profiad addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig a chyfnewid gwybodaeth.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Mae Cate yn swyddog datblygu ymchwil yn y gwyddorau (yn cwmpasu Daearyddiaeth Ffisegol, Mathemateg, Cyfrifiadureg a Ffiseg).

Y rhan fwyaf pleserus o gyflogaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Cate yn mwynhau dysgu am ymchwil y tu allan i'w maes pwnc ei hun ac am fanylion technegol y gwaith dan sylw.

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Llun 09:00-17:30
  • Dydd Mawrth 09:00-17:30
  • Dydd Mercher 09:00-17:30
  • Dydd Iau 09:00-17:30
  • Dydd Gwener 09:00-16:00

Cyhoeddiadau

Cutress, D & Williams, C 2021, 'Can clover cut carbon: Legumes and nitrogen use on farms' Farming Connect.
Williams, C 2020, 'Drought resistant crops for the future' Farming Connect.
Williams, C, Thomas, B, McEwan, N, Rees Stevens, P, Creevey, C & Huws, S 2020, 'Rumen Protozoa Play a Significant Role in Fungal Predation and Plant Carbohydrate Breakdown', Frontiers in Microbiology, vol. 11, 720. 10.3389/fmicb.2020.00720
Cutress, D & Williams, C 2020, 'Rumen fill scoring for monitoring health in dairy cows' Farming Connect.
Williams, C 2019, 'A small but deadly greenhouse gas: how to reduce methane emissions from livestock', Farming Connect.