Mr Hefin Jones

Mr Hefin Jones

Technegydd VetHub1

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae gan Hefin gyswllt â Phrifysgol Aberystwyth ers cryn amser. Fe gafodd ei BSc mewn Gwyddor Anifeiliaid (llwybr anifeiliaid anwes), ei radd Meistr mewn systemau morol a  dŵr croyw, ac mae wrthi'n gorffen ysgrifennu ei PhD.

 

Ac yntau'n dod o gefndir ffermio cymysg, mae gan Hefin ddiddordeb mewn iechyd, lles a maeth anifeiliaid ers amser hir.  Daeth y diddordeb eang hwn yn fwyfwy amlwg o deitlau ei draethodau hir amrywiol. Canolbwyntiodd ei draethawd hir israddedig ar effeithiau solidau tawdd a maeth ar sut mae carpiaid coi Japaneaidd yn datblygu a thyfu.  Yn ystod y cyfnod hwn, llwyddodd i gael cyllid drwy'r WAC ac Urdd Lifrai i deithio i Japan i barhau â'i astudiaethau ar ei draethawd hir.  Roedd ei radd Meistr yn archwilio i sut y gellid defnyddio gwahanol farcwyr a seilir ar gloroffyl yn neietau ieir bwyta ac ieir dodwy er mwyn dod o hyd i unrhyw halogiad gan garthion ac er mwyn atal Campylobacter a Salmonela rhag mynd mewn i'r gadwyn fwyd.

 

Ar ôl ei gyfnod fel myfyriwr israddedig a Meistr, gweithiodd i'r brifysgol fel technegydd ymchwil ar y Prosiect Ŵyn Cynaliadwy a'r arbrofion LUKKA.  Nod y Prosiect Ŵyn Cynaliadwy oedd gweld a fyddai'n bosib defnyddio genyn epiliogrwydd-uchel mewn brid penodol o ddafad er mwyn cynhyrchu ŵyn ar wahanol fathau o dir pori mewn ymgais i wella tiroedd pori, gan fanteisio ar dir y byddai'n cael ei weld yn "anghynhyrchiol" i ffermio a phesgi'r ŵyn ar diroedd mwy cynhyrchiol yn hytrach nag ar borthiant pesgi. Yn yr arbrofion LUKKA bu'n cynorthwyo â phrosiect a oedd yn defnyddio'r planhigyn bysedd y blaidd fel ffynhonnell bosib o brotein y gellid ei dyfu, yn lle soia, ar gyfer porthiant ŵyn. 

 

Ar ôl cwblhau'r prosiectau hyn yn llwyddiannus, dychwelodd Hefin i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth fel myfyriwr PhD o dan oruchwyliaeth Jamie Newbold. Maes astudio ei PhD oedd archwilio i ddefnyddio ychwanegyn a seilir ar goriander i helpu i leihau allyriannau methan mewn cnofilod bach a mawr. Cafodd ei ariannu gan bartneriaid rhyngwladol megis Climate-KIC a South Pole Carbon yn ogystal ag IBERS. Drwy hyn roedd yn gallu gweithio ar faetheg, cynnal sawl arbrawf gydag anifailiaid in vivo, yn ogystal â dadansoddiadau moleciwlaidd drwy'r dulliau mwyaf diweddaraf o ddilyniannu.

 

Roedd ei PhD yn braenaru'r tir iddo gael ymgeisio am swydd yr uwch dechnegydd bioleg foleciwlaidd ar gyfer Prosiect Bwydydd y Dyfodol.  Arhosodd yn y swydd honno nes symud i weithio yn y Ganolfan Filfeddygaeth.

Cyhoeddiadau

MacKintosh, S, Abeysena, V, Thompson, P, Girdwood, S, Jones, H, Leemans, D, Carter, E, Worgan, H, Howarth, C & Moorby, J 2023, 'The use of field peas to substitute soya in broiler finishing diets: Proceedings of the British Society of Animal Science (BSAS 2023)', Paper presented at BSAS Conference 2023, Birmingham, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 28 Mar 2023 - 30 Mar 2023 pp. 301-302. 10.1016/j.anscip.2023.01.405
Chambers, AK, Jones, HG, Wilkinson, T, Worgan, HJ, Warr, A, Huson, KM & McEwan, NR 2018, 'The bacterial pedome associated with foot pathologies in sheep: a case study', Large Animal Review, vol. 24, no. 6, pp. 243-243.
Marley, CL, Jones, HG, Theobald, V, Sanderson, R & Fychan, AR 2014, Evaluation of a home-grown crimped lupin and barley concentrate feed for finishing lambs. in A Hopkins (ed.), EGF at 50: The Future of European Grasslands: Grassland Science in Europe. vol. 19, Prifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University, pp. 651-654.
Marley, CL, Jones, HG, Evans, TH & Theobald, V 2013, A comparison of two breed types within either an indoor or an outdoor lambing system - Effect on lamb performance. in Proceedings of the British Grassland Society 11th Research Conference, Dumfries, UK: Science and Practice of Grass-based Systems. British Grassland Society, pp. Paper 6.4, 11th British Grassland Society Research Conference, Dumfries, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 02 Sept 2013. <http://www.britishgrassland.com/system/files/uploads/11th%20Research%20Conf%20Programme%2027.08.13.pdf>
Jones, HG, Evans, TH, Theobald, V & Marley, CL 2013, Effects of delaying mating time on the scanning percentages of cross-bred ewes carrying a prolificacy gene compared to a control. in Proceeding of a joint BGS/BSAS Conference, 'Profitable and Sustainable Grazing Systems', Malvern, UK 26-27 February 2012. Proceedings BGS/BSAS Conference, "Profitable and Sustainable Grazing Systems - Moving Forward with Science", Abbey Hotel, Abbey Road, Malvern, Malvern, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 26 Feb 2013.
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil