Dr Ruth Wonfor

Dr Ruth Wonfor

Lecturer in Animal and Equine Science

Adran y Gwyddorau Bywyd

Manylion Cyswllt

Proffil

Ymunodd Ruth Wonfor â Phrifysgol Aberystwyth fel Darlithydd yn 2017.  Mae hi'n Wyddonydd Anifeiliaid ac yn dysgu anatomeg a ffisioleg anifeiliaid domestig, yn ogystal â biofoeseg anifeiliaid.  Dr Wonfor yw Cadeirydd Bwrdd Arholi yr Adran Gwyddorau Bywyd, Cydlynydd Cynllun MSc Gwyddor Da Byw a Thiwtor Cyswllt ar gyfer y cyrsiau Astudiaethau Ceffylau yng Ngholeg Gwent.  Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar feithrin celloedd a meinwe ar gyfer modelau anifeiliaid in vitro, a’u defnyddio fel rhan o’i diddordeb mewn ffynonellau celloedd a fformiwleiddiadau’r cyfrwng a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu cig wedi’i feithrin a modelau o glefydau anifeiliaid er mwyn astudio yr ymateb imiwn lletyol. 

Cyn dechrau ei rôl bresennol, cafodd Dr Wonfor BSc(Anrh) mewn Gwyddor Ceffylau a Chwaraeon Dynol yn 2011 ac MSc mewn Gwyddor Anifeiliaid yn 2013 o Brifysgol Aberystwyth.  Yn dilyn hyn, cwblhaodd PhD mewn imiwnoleg atgenhedlu buchol ac endocrinoleg yn 2016, gan astudio swyddogaeth y ffactor cyn-mewnblannu (PIF) o ran addasu imiwnedd yr endometriwm buchol.  Trwy ei hymchwil PhD sbardunwyd ei diddordeb a'i harbenigedd mewn modelau meithrin meinwe a  chelloedd in vitro i ymchwilio i ymatebion imiwn ac endocrin. Gweithiodd fel Cynorthwyydd Addysgu yn IBERS ac yna fel Cymrawd Cyfnewid Gwybodaeth yn IBERS fel rhan o'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth ac ochr yn ochr â Cyswllt Ffermio i ledaenu ymchwil wyddonol ar draws y diwydiant amaethyddol.  Yn sgil y swyddogaeth hon ysgrifennodd nifer o erthyglau technegol ar ystod eang o bynciau Gwyddor Anifeiliaid, yn ogystal â bod yn rhan o ddatblygu sawl Grŵp Gweithredol Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru.

Dysgu

Module Coordinator
Moderator
Tutor
Grader
Lecturer
Coordinator

Grwpiau Ymchwil

Cyhoeddiadau

Wititkornkul, B, Hulme, BJ, Tomes, JJ, Allen, NR, Davis, CN, Davey, SD, Cookson, AR, Phillips, HC, Hegarty, MJ, Swain, MT, Brophy, PM, Wonfor, RE & Morphew, RM 2021, 'Evidence of Immune Modulators in the Secretome of the Equine Tapeworm Anoplocephala perfoliata', Pathogens, vol. 10, no. 7, e912. 10.3390/pathogens10070912
Wonfor, RE, Creevey, CJ, Natoli, M, Hegarty, M, Nash, DM & Rose, MT 2020, 'Interaction of preimplantation factor with the global bovine endometrial transcriptome', PLoS One, vol. 15, no. 12, e0242874. 10.1371/journal.pone.0242874
Wonfor, R, Creevey, C, Natoli, M, Nash, D & Rose, M 2018, 'The effect of synthetic preimplantation factor on the bovine endometrial transcriptome', British Society of Animal Science Annual Conference, Dublin, Ireland, 09 Apr 2018 - 11 Apr 2018.
Wonfor, R, Natoli, M, Shah, I, Beckmann, M, Nash, RJ & Nash, D 2017, 'Anti-inflammatory properties of an extract of M. ilicifolia in the human intestinal epithelial Caco-2 cell line', Journal of Ethnopharmacology, vol. 209, pp. 283-287. 10.1016/j.jep.2017.08.006
Wonfor, R 2017, 'Ectoparasites of sheep: Sheep Scab' Farming Connect. <https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/posts/ectoparasites-sheep-sheep-scab>
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil