Miss Sian Davies

Miss Sian Davies

Institute Development Project Manager

IBERS

Manylion Cyswllt

Proffil

Cyn ymuno ag Ymchwil, Busnes ac Arloesi gweithiodd Sian fel Rheolwr Prosiect ar y prosiect 3 mlynedd Hinsawdd Arloesedd KIC a ariennir gan y Sefydliad Ewropeaidd dros Arloesedd a Thechnoleg yn Athrofa Gwyddorau Biolegol ac Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ganddi Radd Gwyddoniaeth Gymhwysol mewn Cemeg a Gwyddoniaeth Llygredd Amgylcheddol ac phrofiad gwerthfawr mewn diwydiannau d¿¿¿¿¿¿¿¿r a fferyllol.

Hefyd mae ganddi dros 10 mlynedd o brofiad gweithio i gwmni gofal iechyd arbenigol rhyngwladol (Protherics, cwmni BTG) oedd yn darparu cynhyrchion fferyllol arbennig ar werth masnachol mewn nifer o wledydd. Fel Prif Swyddog Gwarantu Safonau roedd hi’n gyfrifol am sicrhau cydymffurfaeth â chyrff rheoleiddio – FDA a MHRA (Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau'r U.D.A. ac Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd)

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Siân Davies yn Swyddog Datblygu Ewropeaidd rhan-amser, o fewn yr Uned Ewropeaidd sy'n cynnig cefnogaeth cyn-dyfarnu i geisiadau am arian Ewropeaidd. Ynghyd â'r Uned Ewropeaidd, hi sy'n gyfrifol am gyflenwi gwybodaeth, cyngor rhagweithiol a chymorth sy'n gysylltiedig â cheisiadau grant e.e. Horizon 2020 (gweithredoedd ERC a Marie Sklodowska-Curie).